Y stori orau ar BroAber360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol gogledd Ceredigion bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

 

Rhestr fer BroAber360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar BroAber360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Blog byw o gystadleuaeth dramâu CFfI Ceredigion – Megan Lewis ac aelodau’r mudiad

BLOG BYW: Dramâu CFfI Ceredigion

Megan Lewis

Blog byw gan aelodau CFfI Ceredigion ar noson olaf wythnos #dramacardi – uchafbwyntiau pob …

 

  • Colli 5 stôn a hanner, a rhedeg 5k! – Nia Gore
Bach o wahaniaeth!

Colli 5st a hanner – a rhedeg 5k!

Nia Gore

Rhedeg 5k i godi arian i elusennau lleol Aberystwyth

 

  • Datblygu Heol Dinas ym Mhenparcau – Mererid Boswell

Barcud yn datblygu Heol Dinas ym Mhenparcau

Mererid

Datblygiad tai ym Mhenparcau yn derbyn grant Llywodraeth Cymru

 

  • O am gael troi’r cloc yn ôl – Elin Haf

 

  • Plwyf tecach y plwyfi – Elliw Dafydd a Gwilym Jenkins

Plwyf tecaf y plwyfi 

Elliw Dafydd

Braint fawr yw cael byw mewn plwyf mor fendigedig â phlwyf Ceulan a Maesmawr ond mae sefydliadau mawr wedi godro’r plwyf yn ddidrugaredd ar hyd y blynyddoedd.

 

  • Ymgyrch ‘Meat Free March’ Macmillan – Ani Jenkins

Ymgyrch ‘Meat free March’ Macmillan

Anwen Jenkins

Cefais siom enfawr a sioc o’r mwyaf wrth weld elusen Macmillan yn hysbysebu ei hymgyrch …

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno

Bydd eich hoff stori ar BroAber360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.

2 sylw

Delyth Morgan
Delyth Morgan

Dim botwm ’diolch’ i BLOG BYW Dramau CFFI Ceredigion

Daniel Johnson
Daniel Johnson

Bore da Delyth, diolch am ddod a hyn at ein sylw. Os rydych yn bwriadu pleidleisio am y stori yma, plis gadewch sylw ar waelod y darn. Diolch.

Mae’r sylwadau wedi cau.