O am gael troi’r cloc yn ôl…..

Troi’r cloc yn ôl

gan Elin Haf

Wnai byth anghofio’r alwad ffôn gan Dad ben bore’r 25ain o Fai i ddweud fod Yncl Cen wedi ein gadael.

Roeddem wedi bod ar binnau am dair wythnos ac yn gweddio y byddai Yncl Cen annwyl yn dod trwyddi.

“Mae o’n foi iach…. ‘rioed wedi yfed alcohol, wastad wedi bwyta’n iach ag yn andros o ffit… fydd o yn siŵr o ddod trwyddi”

Wedi gweld pobl yn dioddef ar y newyddion….. ond rioed wedi ystyried y byddai yn digwydd i ni.

Byddai’r teulu yn ffonio’r Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn ddyddiol i gael ein diweddaru. Roedd hynny yn ei hun yn brofiad a hanner. Roedd hi’n anodd iawn deall y nyrsys yn siarad gan eu bod y gwisgo PPE llawn. Rhaid oedd rhoi’r ffôn ar ‘Loudspeaker’ er mwyn gallu deall yr hyn oedd ganddyn nhw i’w ddweud. Nid oedd yr un diwrnod yr un fath ac roedd Nyrs neu Feddyg gwahanol yn ateb y ffôn bob dydd. Roedd yn teimlo weithiau mai dim ond rhif oedd Cen.

Un o’r dyddiau, fe siaradwyd â Nyrs Gymraeg oedd yn andros o braf, ag eto yn fy ngwneud yn drist nad oedd hi’n gwybod fod Cen yn siaradwr Cymraeg gan ei fod mewn coma ac yn methu cyfathrebu â hi.

Trefnu’r Angladd
Roedd y dyddiau yn dilyn ei farwolaeth yn dorcalonnus wrth i ni geisio trefnu’r angladd yng nghanol y cyfnod clo. Methu rhoi cwtsh i Mam, oedd wedi colli ei brawd. A methu galaru yn iawn.

Mi drefnon ni bopeth o ddrws cefn fy rhieni tra’n eistedd ar gadair campio gan gysgodi o dan ymbarel.

O adnabod Cen ac o’r llu o deyrngedau y bu i ni eu derbyn byddai’r angladd wedi bod yn un mawr iawn, ond nid felly a fu…..

Cafwyd seremoni fer iddo yn amlosgfa’r Barri ble roedd yn byw gyda’i bartner Carol gyda dim ond 13 o’i deulu agosaf yn bresenol. Rhaid oedd cael llythyr gan y trefnwyr angladdau rhag ofn i’r Heddlu ein stopio ar y ffordd i lawr gan fod y cyfyngiadau 5 milltir mewn grym. Rhaid oedd teithio mewn ceir arwahan – gyda fy yncl a’i deulu yn dod yr holl ffordd o Ynys Môn ar gyfer hanner awr o wasanaeth.

Cefais sioc o weld y trefnwyr angladdau mewn masgiau du a ninnau yn gorfod eistedd arwahan yn yr amlosgfa er mwyn cadw pellter cymdeithasol. Neb wrth fy yml i afael llaw…. neb i gynnig cysur.

Roedd blodau pob angladd blaenorol mewn rhes y tu allan gyda labeli ‘Monday’ ‘Tuesday’ ayb arnyn nhw er mwyn i deuluoedd eu casglu yn ddiweddarach. Am drist.

Deufis yn ddiweddarach… ‘da ni fel teulu dal mewn sioc a methu coelio’r hyn sydd wedi digwydd.

Mae’n fy ngwneud yn drist i weld pobl yn mynd yn groes i ganllawiau’r Llywodraeth ag yn meddwl eu bod yn gwybod yn well. Fyddwn i ddim yn dymuno i neb brofi’r hyn rydym ni wedi ei brofi.

 

3 sylw

Moi Parri
Moi Parri

Pan oeddwn i yng Nghaerdydd yn y saith degau des i adnabod Cen o Sir Fon. Buom yn chwarae pel-droed efo’n gilydd am sawl tymor. Ai ei hanes o sydd ganddoch chi? Gadewch i mi wybod. Moi

Moi Parri
Moi Parri

Pan oeddwn i yng Nghaerdydd yn y saith degau des i adnabod Cen o Sir Fon. Buom yn chwarae pel-droed efo’n gilydd am sawl tymor. Ai ei hanes o sydd ganddoch chi? gadewch i mi wybod. Moi

Elin Haf
Elin Haf

Bore da Moi. Ia, dyna chi. Roedd yn chwarae i Cymric ag yn dod o Gwalchmai Ynys Mon

Mae’r sylwadau wedi cau.