Ymgyrch ‘Meat free March’ Macmillan

gan Anwen Jenkins

Cefais siom enfawr a sioc o’r mwyaf wrth weld elusen Macmillan yn hysbysebu ei hymgyrch ddiweddara’ ‘No Meat for March’. Ymgyrch yn annog pobl i roi’r gorau i gig am fis cyfan. Roeddwn yn teimlo fod yr holl gymuned amaethyddol wedi cael eu bradychu’n llwyr gan yr elusen. Credaf fod hon yn ymgyrch negatif a diangen.

Fel athrawes ysgol gynradd mewn ysgol wledig, gyda 38 o ddisgyblion, roeddwn hyd yn oed yn fwy siomedig. Mae’r rhan fwyaf o blant fy ysgol fach i yn feibion ac yn ferched i deuluoedd cefn gwlad. Yn flynyddol, rydym yn cynnal boreau a phrynhawniau coffi yn yr ysgol. Rydym yn tu hwnt o ffodus o’r gefnogaeth barhaus rydym yn derbyn yn ein hysgol fach wledig.

Allai sicrhau chi taw’r bobl gyntaf a gerdda drwy’r drws yn ddi-ffael ydy ein ffermwyr. Pa bynnag amser o’r flwyddyn, pa waeth prysurdeb y fferm, y nhw sydd yno’n gyntaf. Nhw sy’n gwagu eu pocedi, yn prynu raffl, yn cynnig help llaw i wneud paned, i gefnogi yn gyntaf. Er gwaetha hyn, gwelwn nawr fod Macmillan yn annog pobl i roi’r gorau i gig am fis. Mi benderfynais i ysgrifennu cwyn at Macmillan yn esbonio sut roeddwn yn teimlo. Mi wnes i rannu fy e-bost ar Facebook hefyd ac mi gafodd bron i ddau gant o ymatebion. Braf iawn oedd gweld cymuned cefn gwlad yn sefyll i fyny dros eu hunain. Roedd hi’n dipyn o gysur sylwi bod sawl un arall yn teimlo’r un fath a minnau hefyd.

Mor hapus oeddwn i weld erthygl yn cael ei chyhoeddi gan yr elusen sawl diwrnod yn ddiweddarach yn tynnu eu hymgyrch yn ôl ac yn ymddiheuro. Mi wnes i awgrymu iddyn nhw i gynnig ymgyrch tecach, debyg i ‘buy local March’ yn lle. Buasai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bawb, un fyddai gwir yn gwneud lles. Does gen i ddim problem efo unrhyw un sydd eisiau gwneud dewis drostynt ei hunain am ei deiet, ei dewis nhw ydy hynny yn llwyr. Ond, mae gweld elusennau yn hyrwyddo’r fath beth yn anffodus yn fy marn i. Mae hi digon gwael fod archfarchnadoedd megis ‘Tesco’ yn hyrwyddo hyn.

Dwi wedi sylwi fod ‘Cancer Research’ hyd yn oed, nawr wedi cynnig ymgyrch ‘Veg Pledge’. Mae’r teitl yn darllen ‘Can you go meat-free for one month?’. Pryd mae hyn yn mynd i stopio? Wrth gwrs, dwi wedi danfon fy nghwyn atyn nhw hefyd. 

Yn fy marn bersonol i, yr ateb i fywyd mwy ‘gwyrdd’ ydy prynu a chefnogi’n lleol. Sut fod mewnforio’r holl fwydydd yma o ben draw’r byd yn lleihau ôl traed carbon?! Mae’n hollol amlwg i mi fod prynu o’ch siop fara leol, o’ch cigydd a siop y pentref yn cael effaith llawer mwy cadarnhaol ar yr amgylchedd. Os ydych chi’n adnabod eich ffermwyr, prin iawn yw’r nifer sydd wedi bod ar awyren, gyda llawer erioed wedi bod. Chewch chi ddim pobl sy’n gofalu am eu hamgylchedd yn well- maent yn cynhyrchu bwyd eu hunain, yn gwario eu harian yn lleol ac yn aros adref i weithio rhan fwyaf o’r flwyddyn. Ar y llaw arall, mi gewch chi unigolion sy’n ceisio dweud wrthym ni ein bod yn niweidio’r amgylchedd?! A hynny wedi i rai fod ar ei pumed awyren mewn blwyddyn a bwyta bwydydd sydd wedi teithio dros 5000 o filltiroedd.

Dwi wir yn gobeithio bod ffermwyr yn mynd i ennill mwy o barch ac yn bendant yn gobeithio nad yw elusennau’n mynd i gymryd mantais mwyach.

 

Anwen Jenkins,

Merch ffarm ac athrawes ysgol fach y wlad.