Colli 5st a hanner – a rhedeg 5k!

Rhedeg 5k i godi arian i elusennau lleol Aberystwyth

Nia Gore
gan Nia Gore
Bach o wahaniaeth!

Wel, dyw leni heb fynd fel y dyle fe, ond aros yn fyw ac yn iach sy fwya pwysig. Dwi wedi gorfod canslo fy nigwyddiad elusennol eleni – taith tractorau, achos Cofid-19. Ma shwt gymaint o elusennau yn ei chael yn anodd iawn eleni efo gweithgareddau elusennol yn cael eu canslo. Felly, dwi am gyfuno colli pwyse, 5 stôn a hanner hyd yn hyn, a gwella fy ffitrwydd, a dwi am redeg (jogio) 5k, ar y tir adref, ar y 29ain o Dachwedd eleni. I bobl ffit, dyw hyn ddim yn llawer ond i fi, oedd erioed wedi rhedeg tan fis Gorffennaf eleni, mae’n beth mawr. Dwy elusen leol fydda i’n casglu iddynt, sydd gymaint o’u hangen ac yn meddwl cymaint i ni yma mewn ardal wledig, sef uned cemotherapi Bronglais a Blood Bikes Aberystwyth. Os hoffech fy noddi, mae tudalen rhoi ar waelod y darn yma neu danfonwch neges i hela arian ataf. Mi fydda i’n ddiolchgar am  unrhyw nawdd i’r elusennau lleol angenrheidiol yma.

Diolch, Nia x