Plwyf tecaf y plwyfi 

Braint fawr yw cael byw mewn plwyf mor fendigedig â phlwyf Ceulan a Maesmawr ond mae sefydliadau mawr wedi godro’r plwyf yn ddidrugaredd ar hyd y blynyddoedd.

gan Elliw Dafydd

Gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon, yr un peth a ddywedodd Eifion Wyn am gwm Pennant ‘slawer dydd, mai plwyf tecaf y plwyfi, yw plwyf Ceulan a Maesmawr. Ces fy ngeni yma a’m bedyddio, cael fy addysg, dod yn aelod o Eglwys Iesu Grist, a phriodi yma. Cefais bleser eithriadol o gael cydweithio â’r fam natur heb symud o’r plwyf yma ar hyd fy oes. Rwyf wedi cerdded pob llathen o’r plwyf droeon. Mae pob peth sydd ei angen at fyw, boed yn faterol neu’n ysbrydol i’w gael yn helaeth yn y plwyf yma. Ni fu rhaid i mi fynd allan o’r plwyf i chwilio am ddim, hyd yn oed chwilio am wraig. Braint fawr yw cael byw mewn plwyf mor fendigedig â phlwyf Ceulan a Maesmawr. Plwyf sydd mor gyfoethog mewn defnyddiau crai sydd mor angenrheidiol tuag at fywyd, sef dŵr, coed, cerrig, gwynt a phob math o bethau eraill.

Rwy’n teimlo wrth heneiddio, fod y plwyf wedi dirywio yn arw ers y cof cyntaf sydd gen i ohono. Mae’n bryd i ni ddechrau meddwl o ddifri beth sydd yn digwydd. Mae sefydliadau mawr wedi godro’r plwyf yn ddidrugaredd ar hyd y blynyddoedd, ac wedi gwneud elw mawr iddynt eu hunain o werthu’n defnyddiau crai. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw beth i gynnal y plwyf rhag dirywio, er mai nhw sy’n gyfrifol am y dirywiad.

Mae’r Bwrdd Dŵr wedi gwneud elw mawr trwy werthu ein dŵr. Mae teulu Masoniaid, Glan-yr-afon, Penrhyncoch, a theulu Edwards, Lletyllwyd, Talybont, wedi talu rhent iddynt am ran helaeth o’r plwyf, am Ffos-fudr a Bwlch-styllen, a’r holl ddaear sydd â rhediad dŵr i lyn Craig-y pistyll, ers cyn cof gen i. Nid yw’r Bwrdd wedi bod yn barod i wario ceiniog ar eu heiddo. Os chwythai’r gwynt lechen o do tŷ Ffos-fudr, nid oedd unrhyw un yn malio dim. Gadawsant iddo ddirywio yn ara’ bach ar hyd y blynyddoedd, ac yn y diwedd, ar ôl iddo fynd yn beryglus, chwalont e i’r llawr a’i gladdu dan dunelli o gerrig, heb hyd yn oed ofyn caniatâd ein Cyngor Cymuned. Claddwyd ei holl hanes. Roedd yna balis tu mewn i’r drws ac enw pawb oedd wedi mynychu’r lle ar hyd y blynyddoedd. Ni allent roi cymaint â phlac bach i nodi lle y bu, fel y maent wedi addo. Mae tŷ Bwlch-styllen yn brysur yn mynd i’r un cyflwr, ni wariont ddim arno erioed. Tai hyfryd, mae’n drueni.

Tŷ Bwlchstyllen, ger Craig y Pistyll

Prynodd Comisiwn Coedwigaeth 6000 o erwau’r plwyf yn 1963 yn slei, heb roi gwybod i’r tenantiaid. Gorfodwyd hwy i gyd werthu eu diadelloedd, ar ôl gwaith oes o geisio eu gwella. Taflwyd y tenantiaid i gyd allan yn ddiseremoni, ar ôl yr holl brotestio fu. Bu Undeb Amaethwyr Cymru yn ymladd yr achos yn yr Uchel Lys yn Llundain ar ran yr aelodau i geisio eu cadw allan o’n plwyf ni. Doedd dim gobaith ganddynt. Roedd y cyfan wedi’i wneud mor ddirgel. Roedd bai mawr ar yr arwerthwr gadwodd y gyfrinach oddi wrth y tenantiaid. Mi roedd y golled yn aruthrol i ffermwyr y plwyf yr adeg hynny. Eu dadl hwy oedd sicrhau gwaith i’r dyfodol. Ble ma’r gwaith heddi? Peiriannau anferth sy’n gwneud y gwaith i gyd, ac yn corddi’r ddaear a’r nentydd yn ddidrugaredd. Chwalont bob tŷ oedd ar y stad, rhag ofn â rhywun i fyw ynddynt. Sychont y corsydd i gyd, a dyna sy’n rhannol gyfrifol am y llifogydd rydym yn eu cael ers hynny. Collom bob pysgodyn o’r nentydd. Roedd y bugeiliaid a’u teuluoedd yn dibynnu arnynt am eu cynhaliaeth cyn 1963. Mae rhai o Gyfoeth Naturiol Cymru yn barod iawn i erlid amaethwr pan lygrith e ddarn o afon yn ddamweiniol, mi ddaw’r pysgod yn ôl mewn pymtheg mlynedd, medde nhw. Ni fedrith Comisiwn Coedwigoedd gynt, Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw, fyth, bythoedd ddod a chyfoeth naturiol oedd yn bodoli yn ein plwyf ni cyn 1963 yn ôl, ar ôl iddynt lygru ein nentydd a’n afonydd. Nid darn o afon lygront, ond afonydd a nentydd yr ucheldir i gyd. Pam nad ydynt yn cael eu herlid? Collom gynefin y chwibanogl a’r rugiar. Mae gweld Castell Bach heddi, a llawer man arall, ar ôl torri a chlirio’r coed yn dorcalonnus, ac ni, y plwyfolion lleol fydd yn gorfod diodde’r olygfa druenus yma am flynyddoedd.  

Mae gwerth ffortiwn o goed wedi mynd allan o’r plwyf, ond nid yw’r plwyf wedi elwa dim, dim ond gorfod diodde’ gweld y ddaear oedd mor annwyl yn cael ei racso, a’i ddirywio.

Castell Bach, uwchben Llyn Nant y Cagal

Boddodd y Bwrdd Trydan ran helaeth o’r plwyf yr un pryd i gynhyrchu trydan. Agorwyd chwarel ar yr Hafan i gael y cerrig i adeiladu’r argae, ein cerrig ni, cerrig o’r ansawdd gorau. Aeth y chwarel yn anferth erbyn diwedd codi’r argae. Ar ôl iddynt gael beth oedd arnynt hwy eisiau, gadawont y cyfan fel ag yr oedd, yn gythreulig o beryglus i fugail ac anifail. Ac felly y mae hyd heddi, heb hyd yn oed arwydd bod y lle’n beryglus, a bod yna ugeiniau o fetrau o gwymp o’r top i’r gwaelod, heb unrhyw beth i amddiffyn rhag cael damwain, ac am o leiaf can metr o hyd. Pam fod swyddogion Iechyd a Diogelwch yn llethu cymdeithasau cefn gwlad gyda’u rheolau pitw, ac yn anwybyddu’r llefydd sydd wirioneddol beryglus i drigolion y plwyf? Mae’n amlwg bod dwy gyfraith ganddynt, un i’r werin bobl, ac un i’r sefydliadau mawr.

Cwarel yr Hafan. Sylwch pa mor beryglus maent wedi llwyddo i wneud cynefin y ddafad druan.

Mor wahanol y manteisiodd y diweddar Dr Dafydd Huws, Mynydd Gorddi, ar wynt y plwyf. Gwariodd e arian mawr ar felinau gwynt i gynhyrchu trydan glân. Gofalodd fod cyfran o’r elw yn dod yn ôl i’r plwyf a’r plwyfi cyfagos. Mae llu o gymdeithasau wedi elwa yn arw yn y gorffennol. Mae ein dyled yn fawr iawn i’r teulu, ac i Dr Huws am ei weledigaeth a’i gyfraniad. Onid yw hi’n bryd i ni ofyn i’r sefydliadau eraill yma i wneud yr un peth? Maent wedi cymryd cyfoeth ein plwyf ni yn ganiataol, heb dalu dim amdanynt. Meddyliwch faint o les byddai wedi bod i’r plwyf petaem wedi cael yr un cyfraniad am ein dŵr, coed a’n cerrig ag a gawsom am ein gwynt. Mae’r sefydliadau mawrion yma wedi gwneud ffortiwn ar ein cefnau. Dylent gyfrannu yn bendant am y dirywiad enbyd sydd wedi digwydd i’r plwyf ers dechrau’r chwedegau.

Gwilym Jenkins, 2016