Atal y Môr – Amddiffyn y Dre

Pryderon Nofwyr

gan Catherine Taylor
IMG_7423

Fel rhan o ymgynghoriad cynllun arfaethedig Cyngor Sir Ceredigion i amddiffyn y dre rhag y môr, cyhoeddwyd llythyr yr wythnos hon gan nofwyr lleol.

Mae’r grŵp, sydd yn nofio’n gyson ger y bandstand, yn ofni bydd y newidiadau yn golygu na fydd yn sâff nofio o draethau’r dre.

Ces ganiatad i’w rannu yma.

Annwyl Syr/Madam,

Parthed yr Ymgynghoriad arfaethedig ar y Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Aberystwyth

Rydym yn griw o nofwyr lleol sy’n nofio drwy’r flwyddyn oddi ar Draeth y Gogledd Aberystwyth, Traeth y De a’r traeth ger Gwesty’r Glengower.

Rydym yn ysgrifennu oherwydd ein bod yn nodi nad yw’n ymddangos bod Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Aberystwyth, fel y mae, yn mynd i’r afael ag anghenion a diogelwch nofwyr yn yr ardal. Rydym hefyd yn ofni, os na fyddwn yn codi’r materion hyn yn awr, y gallai diogelwch nofwyr yn ogystal â bwrddwyr, caiacwyr ac ati gael eu peryglu’n ddifrifol.

Fe’ch anogwn felly i fynd i’r afael â’r pryderon hyn fel mater o flaenoriaeth uchaf ac wrth wneud hynny, ymgynghori ag aelodau o gymuned nofio Aberystwyth.

Dros y pum mlynedd diwethaf neu fwy, mae nofio mewn grŵp wedi dod yn ganolbwynt i fywyd cymunedol Aberystwyth ac yn rhan o wead y dref. Mae glan môr Aberystwyth yn gartref i gymuned weithgar o nofwyr o bob oed a gallu, sy’n mwynhau’r manteision iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â’r ymdeimlad o les a chysylltiad sy’n dod gyda nofio gyda’i gilydd fel rhan o grŵp.

Er ein bod yn llawn cydnabod yr angen am well amddiffynfeydd arfordirol, ac yn croesawu’r ffaith bod arian wedi’i neilltuo i fynd i’r afael â hyn, rydym hefyd yn ceisio sicrwydd na fydd y cynllun hwn yn cael effaith negyddol ar draethau nofio diogel a dymunol y dref a gaiff eu mwynhau bob blwyddyn gan filoedd o bobl, yn bobl lleol neu’n ymwelwyr.

Yn ogystal â materion diogelwch, rydym hefyd yn pryderu am yr effaith y gallai cynllun o’r fath, os na chaiff ei gynnal gyda diwydrwydd a sensitifrwydd priodol, ei chael ar amgylcheddau morol ac arfordirol lleol.

Materion diogelwch

Mae’r risgiau posib a nodir i bob traeth yn wahanol eu natur, fel a ganlyn:

1.Risgiau i Draeth y Gogledd 

Er ein bod yn croesawu ac yn cydnabod yr angen am fesurau i leihau difrod stormydd i Draeth y Gogledd a gwrthsefyll effeithiau codiad yn lefel y môr, rydym yn ofni bod y cynnig fel y mae yn codi pryderon diogelwch mawr.

Yn benodol, nodwn y gallai’r grwyn arfaethedig, sydd i redeg yn gyfochrog â’r pier, greu cerrynt rhwyg peryglus. Gall y ceryntau cryf hyn ysgubo nofiwr allan i’r môr yn gyflym a pheryglu bywydau. Yn wir, grwynau yw un o brif achosion marwolaeth trwy foddi, gyda’r RNLI yn adrodd bod dros 60% o’u galwadau achub bywyd yn y DU yn ymwneud â cheryntau rhwyg.

Diolch byth, mae ceryntau rhwyg yn ddigwyddiad prin oddi ar draethau Aberystwyth ar hyn o bryd a hoffem eich annog i wneud popeth o fewn eich gallu i sicrhau bod hynny’n parhau.

2.Risgiau i’r Traeth ger Gwesty’r Glengower 

Wedi’i leoli ym mhen gogleddol y prom ger Craig Glais, mae’r traeth tawelach hwn yn denu nofwyr, padlfyrddwyr, caiacwyr ac ati sy’n mwynhau ei dawelwch cymharol, ei olygfeydd hardd, a’i agosrwydd at natur. Mae hefyd yn lleoliad ardderchog ar gyfer gweld dolffiniaid, morloi ac amrywiaeth o adar môr.

Clogfeini ‘arfwisg graig’ arfaethedig

Mae’r cynllun ymgynghori yn cynnig ‘arfwisg graig’, neu glogfeini mawr, i orchuddio tua hanner y traeth pan fydd y penllanw. Effaith hyn fyddai gwneud y traeth yn gwbl anhygyrch ar drai. Rydym yn pryderu bod y bwriad i ychwanegu clogfeini mawr ar hyd rhan allanol y traeth yn gorchuddio ardal anghymesur o’r hyn sydd eisoes yn draeth cul.

Anniogel i nofwyr Ar wahân i’r golled hon o ran amwynder, byddai’r clogfeini newydd yn beryglus i nofwyr, gan eu gadael heb unrhyw bwynt diogel fel allanfa ar y penllanw. Yn waeth byth, gallai’r clogfeini greu risg wirioneddol o nofwyr yn cael eu chwalu yn erbyn y creigiau gan lanw cyflym y traeth.

Anniogel i gerddwyr Yn wir, oherwydd culni’r traeth a’i lanw cyflym yn dod i mewn, gallai’r cynllun hwn hefyd lleihau diogelwch cerddwyr ar y traeth. I’r rhai ar droed, byddai’r risgiau’n cynnwys cael eu torri i ffwrdd gan y clogfeini ar lanw uchel, cwympo wrth ddringo dros y creigiau (sydd yn anochel yn llithrig), a chael eu dal rhwng y clogfeini ac ati.

Mewn gwirionedd, gallaig’r graig arfogaeth hon wneud y darn cyfan hwn o’r traeth yn anniogel ar gyfer nofio. Byddai hyn yn golled drist i’r gymuned ac ymwelwyr o lecyn cymharol ddiogel, hardd i nofwyr a defnyddwyr eraill y traeth a’r môr.

3.Risgiau i Draeth y De, yr Harbwr, a Than y Bwlch

Er nad yw Traeth y De yn cael ei effeithio i raddau helaeth gan y cynllun, hoffem gael sicrwydd na fyddai’r strwythurau arfaethedig i Draeth y Gogledd, yn ogystal â’r grwyn arfaethedig ger Trwyn y Castell, yn effeithio ar geryntau Traeth y De na’r Harbwr, yn ogystal ag ymhellach i’r de yn Tan y Bwlch.

Pryderon Amgylcheddol-Colli cynefinoedd bywyd gwyllt

Fel nofwyr cyson, rydym hefyd yn ymwybodol iawn o’r ecosystem gyfoethog ond bregus a harddwch naturiol traethau Aberystwyth, sy’n rhan o Ardal Gadwraeth Bae Ceredigion. Rydym hefyd yn pryderu am effaith yr amddiffynfeydd morol hyn ar yr amgylchedd a’u bygythiad posib i gynefinoedd bywyd gwyllt. Byddai newidiadau i gerrynt ac agweddau ffisegol gwely’r môr yn anochel yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar hyd yr arfordir, gan y bydd symudiad deunyddiau yn newid. Gallai hyn effeithio ar bysgod, cramenogion (e.e. crancod heglog) yn ogystal â’r boblogaeth o ddolffiniaid. Gallai hefyd effeithio ar gynefin adar fel pibydd y dorlan, piod y môr a cherrig tro sy’n defnyddio’r draethlin, a hyd yn oed y ddrudwen sy’n nythu o dan y pier.

Risg llygredd

Hoffem hefyd gael sicrwydd ni fydd yr arllwysfa garthffosiaeth sydd (os gollyngir) fel arfer yn mynd heibio Traeth y Gogledd, yn cael ei gwthio i’r bae oherwydd y newidiadau.

Maeth traeth

Deallwn o’r sesiynau ymgynghori fod hyn yn cyfeirio at y bwriad i fewnforio tywod i’r traeth. Yn hyn o beth, rydym yn pryderu y byddai amodau gwyntog traethau Aberystwyth yn eu gwneud yn anaddas ar gyfer tywod, a allai gael ei chwythu’n rheolaidd ar y prom.

Rydym hefyd yn pryderu bod y cynnig presennol mewn perygl o ddinistrio tirwedd naturiol eiconig Aberystwyth. Nid yw tywod yn rhan o’r amgylchedd daearegol naturiol ar gyfer ein traethau, ac nid oes gan Aberystwyth ychwaith yr hinsawdd a fyddai’n ei gwneud yn addas ar gyfer tywod. Am resymau ymarferol, esthetig ac ecolegol, teimlwn y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i gynnal traethau llechi-llwyd nodweddiadol y dref.

Cronfeydd lefelu

Yn ogystal â’r cyllid amddiffynfeydd arfordirol, nodwn fod Aberystwyth wedi cael bron i £11 miliwn o arian Lefelu i Fyny. Bwriad hyn, yn rhannol, oedd ‘adfywio’r promenâd’ yn ogystal â denu ‘mwy o ymwelwyr â diddordeb mewn diwylliant, treftadaeth a bwyd, gan wella ei safle fel cyrchfan i dwristiaid, ac yn y pen draw cynyddu nifer yr ymwelwyr ac incwm drwy dwristiaeth’.

Dull cydgysylltiedig 

Yng ngoleuni’r uchod, byddem yn annog bod yr ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal yn gyfannol; ei drin fel cyfle nid yn unig i ddarparu gwell amddiffynfeydd arfordirol, ond i wella glan y môr yn ei gyfanrwydd. Teimlwn y byddai methu â ‘chydgysylltu’r amddiffynfeydd môr arfaethedig â’r cyllid Lefelu i Fyny yn y modd hwn yn cynrychioli cyfle mawr a gollwyd i’r dref a’r gymuned gyfan.

Opsiynau sy’n canolbwyntio ar y gymuned a thwristiaeth

Byddem yn eich annog i drin amwynder y gymuned leol ac ymwelwyr â’r dref fel rhan annatod o unrhyw gynllun amddiffyn rhag llifogydd. Mae un enghraifft ysbrydoledig o’r math hwn o ddull ‘cydgysylltiedig’ i’w weld ar Ynys Wyth. Mae ‘Swim The Wight’, menter gymdeithasol, ar hyn o bryd yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd i adeiladu pwll hygyrch fel rhan o’r amddiffynfeydd môr arfaethedig.

I gloi…

Rydym yn cydnabod yr angen am Gynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Aberystwyth ac yn cydnabod yr angen i warchod glan môr Aberystwyth rhag codiad yn lefel y môr. Fodd bynnag, rydym yn pryderu nad ydym yn gwastraffu potensial y cyfle un tro hwn drwy ddiffyg cynllunio cydgysylltiedig a phartneriaeth ystyrlon gyda’r holl randdeiliaid cymunedol, gan gynnwys y gymuned nofio leol.

Credwn y gallai’r cynllun amddiffynfeydd môr arfaethedig gynrychioli cyfle arbennig unwaith-mewn-oes. O’i gynnal gyda sensitifrwydd a dychymyg, ac mewn ymgynghoriad ystyrlon nid yn unig â’r gymuned nofio leol ond â phawb sy’n caru ac yn defnyddio traethau’r dref gallai gwella harddwch naturiol a photensial hamdden glan môr hanesyddol Aberystwyth.

Am y rhesymau hyn, hoffem eich annog i sicrhau bod y broses ymgynghori barhaus mor agored a chynhwysol â phosib, gan gynnwys cynrychiolwyr o grwpiau fel yr RNLI, asiantaethau amgylcheddol/morwrol, defnyddwyr harbwr lleol, y Brifysgol, trigolion ar y prom ac yn agos ato, darparwyr twristiaeth – ac, wrth gwrs, cymuned nofio’r dref.

Yn ganolog i hyn, hoffem hefyd gael eglurhad o’r tybiaethau y mae’r modelau presennol yn seiliedig arnynt, yn ogystal â’u lefelau sicrwydd cysylltiedig. Sut bydd y cynllun hwn yn effeithio ar ddiogelwch nofwyr a defnyddwyr dŵr eraill? Sut bydd yn effeithio ar fywyd gwyllt? A fydd pobl dal eisiau ymweld ag Aberystwyth? Pa fodelau eraill y gellid eu hystyried?

Fel grŵp o nofwyr môr lleol, rydym mewn sefyllfa i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr, adeiladol a fyddai o fudd i unrhyw gynllun amddiffyn rhag llifogydd arfaethedig. Yn hyn o beth, rydym yn dymuno cael ein cynrychioli, ynghyd â chyrff perthnasol eraill, fel rhan o gorff ymgynghorol ar gyfer y cynllun hwn.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych, ac at weithio gyda chi mewn ffordd adeiladol ar y broses ymgynghori barhaus.

 

 

Dweud eich dweud