Y Tincer mis Ebrill ar ffurf ddigidol
Oherwydd y sefyllfa bresennol mae’n amhosibl cyhoeddi Y Tincer y mis yma yn ei ffurf arferol. Ond gan fod y papur yn cael ei baratoi’n ddigidol penderfynwyd dod â fersiwn digidol yn unig allan. Mae’r cyswllt rhwng y golygydd a’r dylunydd a hefyd 98 y cant o’r gohebyddion arferol trwy ebost.
Gwahoddir y gohebyddion arferol ac eraill i yrru deunydd i YTincer@gmail.com. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn i dydd Gwener 3 Ebrill. Wythnos yn ychwanegol felly i lunio adroddiad neu orffen yr erthygl yna sydd ar ei hanner ers tro!
Bydd modd dosbarthu y rhifyn trwy ei yrru trwy ebost, a bydd hefyd ar gael ar dudalen Y Tincer ar wefan Trefeurig yn ogystal â rhai gwefanau eraill fel Bro Aber360 Ni chodir tâl am y rhifyn hwn.
Canu o’r drysau yn Nhal-y-bont
Wedi’u hysbrydoli gan yr Eidalwyr yn canu o’r balconïau, fe drefnodd trigolion un …
Darllen rhagorTINor pic.twitter.com/l0MnAP4YFf
— Cyril Evans (@Cardicyril) March 25, 2020
Anifeiliaid yn dianc o sŵ Borth eto
Bu’n rhaid i’r ganolfan yng Ngheredigion gau ddechrau’r flwyddyn
Darllen rhagorCymdogion pentrefi Ceredigion yn creu cynlluniau i helpu ei gilydd
Rhestr o'r cynlluniau cyfaill a chymorth yng ngogledd Ceredigion
Darllen rhagorDim bara , dim burum. Triwch fara soda
Rysait bara soda
Darllen rhagorCynlluniau cymorth yn ein pentrefi – cais am fanylion
Ydych chi’n gwybod am gynllun cymorth / cyfaill sydd wedi’i greu mewn ymateb i heriau’r coronafeirws yn lleol? Rhowch wbod isod – ry’n ni’n ceisio casglu gwybodaeth ynghyd am bob un yng ngogledd y sir.
Busnesau bwyd Aberystwyth yn addasu
Diweddariad am rhai o siopau bwyd annibynnol Aberystwyth
Darllen rhagorGwella’ch sgiliau digidol – o gysur eich cartref eich hun
Prifysgol Aberystwyth i ysbrydoli rhagor o bobl i droi’n ddigidol Mae cwrs newydd, sy’n rhoi cyfle …
Darllen rhagorElin Jones yn profi’n bositif am Covid-19
Llywydd y Senedd wedi hunan-ynysu ers nos Iau
Darllen rhagor