Dim bara , dim burum. Triwch fara soda

Rysait bara soda

gan Medi James

 

TORTH FAWR

175g blawd cryf (dim ots pa flawd mewn gwirionedd)

175g blawd cyflawn (neu arall)

50g  unrhyw hadau

halen a phupur

1 llwy de o bicarb o soda

200ml o iogyrt (neu hanner hanner + dŵr)

2 foronen wedi’u gratio

 

Popty 220 / ffan 200 / nwy 7

Cymysgwch y deunydd sych mewn powlen ac yna’r moron.

Ychwanegwch yr iogyrt i’r gymysgedd a’i gymysgu’n dda

Bydd angen ychwanegu dŵr oer bob yn dipyn tan i’r gymysgedd ddod at ei gilydd – dim rhy sych na gwlyb

Ei roi yn belen hirgron ar dun wedi ei iro a thynnu 2 neu 3 toriad cyllell ar draws y top

Ei bobi am 40 munud