Busnesau bwyd Aberystwyth yn addasu

Diweddariad am rhai o siopau bwyd annibynnol Aberystwyth

gan Alun Williams
Alun Williams

Mae siop bwyd cyfan Treehouse yn Stryd y Popty, Aberystwyth wedi symud eu til i’w ffenestr flaen. Nid oes angen mynd yn y siop. Dywedwch beth rydych chi eisiau o bell a bydd staff yn pacio’ch archeb ar eich rhan.

Mae Siop cyfanfwyd Treehouse yn Stryd y Popty, Aberystwyth wedi symud ei til i’w ffenestr flaen. Nid oes angen mynd i mewn i’r siop,  Dywedwch drwy’r ffenest beth yw’ch neges ac fe ddaw aelod o’r staff ag e draw i chi. Os nad oes staff yn y ffenest gallwch ganu’r ‘cloch llaw’ sydd wedi ei chrogi wrth y drws. Hon oedd yr hen gloch oedd yn ‘galw amser’ yn nhafarn y Victoria lle saif y siop nawr. Gallwch hefyd archebu eich neges drwy ddanfon e bost at morganne@tcth.co.uk

Bydd Medina, Stryd y Farchnad, siop yn y cyntedd ar agor tan ddydd Gwener, pobi bara tan hynny.

 

Bydd siop Jonah’s yn parhau i gludo pysgod ffres i bawb, yn enwedig rhai sydd mewn perygl o gael eu heintio. Ffoniwch 01970 615492 rhwng 10am – 12pm i osod archebion neu e bost at info@jonahsfish.co.uk

Mae Maeth y Meysydd yn dal ar agor 10am – 4pm ond dim burum na blawd eto – ymddiheuriadau