Canu o’r drysau yn Nhal-y-bont

Delyth Ifan
gan Delyth Ifan

Wedi’u hysbrydoli gan yr Eidalwyr yn canu o’r balconïau, fe drefnodd trigolion un stryd fach yn Nhal-y-bont ffordd ddiogel o gyfarch eu cymydog gwych, Ieuan Morgan, ar ei ben blwydd arbennig heddiw.

Trwy drosglwyddo’r neges dros y ffôn, dros ffensys a chloddiau, llwyddwyd i drefnu bod rhyw 16 o bobl mas ar garreg y drws neu’n yr ardd yn barod i weld Ieuan yn ymddangos ar y dreif, yn sgil cael galwad ffôn gan un o’r cymdogion.

Roedd ei wyneb yn bictiwr wrth i’w gymdogion gymeradwyo a chanu pen blwydd hapus iddo.

Ffordd fach syml a diogel o gyfarch cymydog heb ei ail, ac arwydd o ysbryd gymdogol ardal Maes y Felin o’r pentref. Pan fydd yr hen feirws ’ma wedi gadael ein cymuned, fe gawn ni barti stryd mawr!

Dyma beth wnaethon ni bore ma yn ein stryd ni, ar ben blwydd arbennig Ieuan Morgan! Pob un yn cadw’n ddigon pell wrth ei gilydd, ac felly’r canu ddim yn wych Sam Ebenezer Gwenallt Llwyd Ifan Esther Llwyd Phil Davies Megan Mai Robat Gruffudd ( a Lynne, Mark, Eryl, Gwyn, Fal, Eurgain, Enid, a Dai a Sue)

Posted by Delyth Ifan on Wednesday, 25 March 2020