Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddefnyddio Canolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Penweddig i reoli llif cleifion
Mae Canolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Penweddig yn Aberystwyth ymhlith yr adeiladau bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn eu defnyddio er mwyn darparu capasiti ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd oherwydd y coronafeirws.
Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Bydd darparu’r adnoddau ychwanegol yng Ngheredigion yn hanfodol i’n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf.”
Gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion tan 2021
Roedd disgwyl i’r ŵyl gael ei chynnal yn Nhregaron ym mis Awst
Darllen rhagorGeiriau i’n Cynnal 2
Geiriau i'n Cynnal 2: Pwy yw fy nghymydog?
Darllen rhagorCodi arian i helpu gwirfoddolwyr a gweithwyr Covid-19 NHS
Codi arian at y Gwasanaeth Iechyd drwy siafio pennau.
Darllen rhagorYmaichi – Gwasanaeth newydd i gefnogi busnesau lleol
"Sicrhau fod yr economi leol yn dal i droi" yw nod y gwasanaeth.
Darllen rhagorGwefan arbennig i gynnig cymorth i fusnesau Ceredigion
Cyngor Sir Ceredigion yn lansio gwefan arbennig gyda'r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau.
Darllen rhagorRydych CHI’n Ddigon!
Fy fersiwn i o bethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud gyda phlant yn y cyfnod cythryblus hwn.
Darllen rhagorPethau bach allai helpu…
Dyma rai awgrymiadau am bethau bach allai helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn
Darllen rhagorBro360 yn helpu papurau bro Cymru i barhau i gyhoeddi
Gwasanaeth dros dro i helpu papurau bro Cymru gyfan
Darllen rhagorY Tincer mis Ebrill ar ffurf ddigidol
Oherwydd y sefyllfa bresennol mae’n amhosibl cyhoeddi Y Tincer y mis yma yn ei ffurf arferol. Ond gan fod y papur yn cael ei baratoi’n ddigidol penderfynwyd dod â fersiwn digidol yn unig allan. Mae’r cyswllt rhwng y golygydd a’r dylunydd a hefyd 98 y cant o’r gohebyddion arferol trwy ebost.
Gwahoddir y gohebyddion arferol ac eraill i yrru deunydd i YTincer@gmail.com. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn i dydd Gwener 3 Ebrill. Wythnos yn ychwanegol felly i lunio adroddiad neu orffen yr erthygl yna sydd ar ei hanner ers tro!
Bydd modd dosbarthu y rhifyn trwy ei yrru trwy ebost, a bydd hefyd ar gael ar dudalen Y Tincer ar wefan Trefeurig yn ogystal â rhai gwefanau eraill fel Bro Aber360 Ni chodir tâl am y rhifyn hwn.