Geiriau i’n Cynnal 2

Geiriau i’n Cynnal 2: Pwy yw fy nghymydog?

William Howells
gan William Howells

Croeso i Oedfa ar y We!

Sul, Mawrth 29ain, 2020

Geiriau i’n cynnal

[Diolch yn fawr i’r Parchg Peter Thomas am ein harwain yn y myfyrdod isod.]

Anwyliaid yr Anwel,

Daeth nodyn trwy’r drws prynhawn dydd Sul diwethaf oddi wrth y teulu sydd newydd ymgartrefu ar draws y ffordd i’n tŷ ni. Nodyn yn cynnig cymorth yn yr argyfwng a rhif teleffon i gysylltu. Teimlais braidd yn euog o’i ddarllen gan nad oeddwn hyd yma wedi croesi’r ffordd i’w cyfarch a’u croesawu a dyma nhw yn estyn llaw i’n helpu ac yn rannu eu consyrn mewn dyddiau anodd.

Nid nepell o fynedfa Ysbyty’r Frenhines Elisabeth ar gyrion dinas Birmingham ma ‘na gerflun gan y cerflunydd o’r Almaen: Uli Nimptsch. Yno ar slabyn o garreg y mae dau ffigwr efydd – y naill yn ŵr oedrannus yn gorwedd ar lawr a’r llall yn bortread o ŵr ifanc yn plygu drosto i’w gynnal. Y mae’r cyfanwaith creadigol yn llwyddo i greu delwedd urddasol a chadarn o deimlad a chonsyrn ac yn llwyddo i gyfleu yr hyn yw prif swyddogaeth pob ysbyty, sef estyn gofal ac iachâd.

Y gair sy’n ymddangos o dan y cerflun yw’r gair “Tosturi” ac mae’n bortread cyfoes o un o ddamhegion mwyaf cofiadwy yr Arglwydd Iesu – Dameg y Samariad Trugarog – dameg a ysgogwyd gan gwestiwn: “a phwy yw fy nghymydog?”

“Yr oedd dyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jerico, a syrthiodd i blith lladron …”.

Penllanw’r stori yw’r cwestiwn: “prun o’r tri hyn, dybi di, fu’n gymydog i’r dyn a syrthiodd i blith lladron – yr Offeiriad, y Lefiad, neu’r Samariad?”

Daw’r ateb o enau’r cyfreithiwr a holodd y cwestiwn:”Yr un a ddangosodd dosturi a thrugaredd.”

Ac yna’r her i’r cyfreithiwr, ac i bawb o’dd yn gwrando, ac i bawb sy’n dal i wrando: “Dos, a gwna dithau yr un modd.”

Y mae ‘tosturi’ yn derm haniaethol ac er bod y geiriadur yn cynnig geiriau fel ‘trugaredd’ a ‘trueni’ mewn ymgais i esbonio ei ystyr, nid ydynt yn llwyddo i ddweud yn union beth ydyw.

Y mae tosturi yn ei hanfod yn gyflwr, yn ymagwedd sy’n dod i’r amlwg mewn gweithred ac, er ei fod yn cael ei restru mewn llyfr gramadeg fel ‘enw gwrywaidd’, y mae mewn gwirionedd, yng ngramadeg bywyd, yn ferf, yn air gweithredol. Mae’n cael ei amlygu yng nghanol digwydd bywyd, yn ein hymwneud â’n gilydd, yn ein gofal a’n consyrn am eraill ac yn ein hymdrechion i ddiogelu urddas a gwerth yr unigolyn, pwy bynnag y bo.

Bu fy nwy wyres fach wrthi’n brysur rai dyddiau’n ôl yn gwneud darluniau o’r enfys a’u lliwio’n ofalus a chyda help eu mam fe’u gosodwyd yn ffenest flaen eu cartref. Holais hwy pam oedden nhw wedi gwneud hyn a chefais yr ateb yn ddiflewyn-ar-dafod: “it is because we care, Dat!”

Er bod lledaeniad haint Covid-19 yn parhau’n fygythiol a dinistriol wrth inni orfod ymrafael â gelyn anweledig, llwyddodd yr argyfwng rywsut i ennyn ynom ysbryd mwy hynaws a chymdogol. Amlygwyd hynny yn ymroddiad meddygon a nyrsys o fewn y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal, ym mharodrwydd pobl i wirfoddoli a chynorthwyo, ym mharodrwydd pobl i wrando ac ymateb i gyfarwyddiadau gwleidyddion a gwyddonwyr er bod hynny’n golygu cyfyngu ar ein rhyddid a’n symud – eto i gyd gwelwyd trwy gyd-ymdrech yr egwyddor tosturiol hwnnw ar waith.

Y mae’r Arglwydd Iesu drwy’r stori am deithiwr unig a syrthiodd i blith lladron ac am ymateb tosturiol ei gymydog estron tuag ato yn llwyddo i danlinellu’r gwirionedd mai nid damcaniaeth neu theori sydd yn ei ysgogi ond realrwydd y sefyllfaoedd y mae galw arnom i gamu i’w canol a gweithredu ynddynt. Parhawn i estyn llaw i gwrdd ag angen ein cyd-ddyn ac i fynegi hynny’n ymarferol mewn cariad a thosturi a thrugaredd.

Y mae dameg y Samariad Trugarog yn ein herio i ystyried ein cymydog a’i angen, y cymydog sy’n byw drws nesaf, ynghyd â’r cymydog hwnnw lle bynnag y bo yn ei angen. Ni fydd ein tosturi yn werth dim os na ddangoswn ef mewn gweithred a honno’n weithred ymarferol.

Yn gymaint iti gofio un o’r rhain …

yn gymaint i ti estyn llaw i’th god …

yn gymaint i ti gofio’r rhai mewn cell …

Fe’i gwnaethost, do, i’r un sy’n Arglwydd nef

A phrofi wnei o rin ei fendith Ef.”

 

“Dos, a gwna dithau yn yr un modd. ”

Mae’r cyfarchiad ar gychwyn y pwt wythnosol hwn yn nodi “Anwyliaid yr Anwel” ac er na fedrwn ar hyn o bryd rannu wyneb yn wyneb, yr ydych bawb ohonoch ar fy meddwl ac yn fy ngweddïau. Cofiwn nad lle yw’r eglwys ond pobl, nid corlan ond praidd, nid adeilad cysegredig ond cynulliad crediniol.

Rwy’n medru uniaethu â geiriau yr Apostol Paul ar gychwyn ei lythyr at eglwys Colosia:

“Yr ydym ni bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist … ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint … Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a dal ati’n llawen ym mhob dim gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth yn deilwng i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.”

Bendith Duw a’i ymgeledd a fyddo ichwi’n rhan ynghyd a’m cofion cynnes,

Peter

Darlleniadau:

Salm 91

Luc pennod10 adnodau 25–37

Effesiaid pennod 6 adnodau 10–20

Gweddi:

Dathlwyd Dydd Gŵyl Padrig Sant ar 17 Mawrth 17eg.

Boed i ni rannu ei weddi fel gweddi bersonol:

 

Crist o’m blaen i, Crist o’m cefn i,

Crist i’m hochr ac o’m mewn i,

Crist yn Arglwydd fy holl fywyd.

Crist a fyddo’n rhan y foment hon

I’n harwain yn ein blaen ac o’r tu cefn.

Crist a leinw ynom rin ei Ysbryd Ef

I’n cynnal ni a’n cyrchu ‘nghyd.

Yno o bob tu a lle bynnag trown,

Pan orweddwn a phan godwn ni drachefn.

Crist a lanwo galon y rhai yr ydym ar eu meddwl

A genau y rhai sy’n siarad amdanom,

Yn llygaid y rhai a’n gwêl

A chlust y rhai a’n clyw.

Amen.