Y prynhawn yma ges i syniad positif i godi arian i’r NHS am y gwaith maen nhw’n ei wneud i clefa (os ma hynny yw’r gair) Covid-19.
Fel dach chi’n gwybod, neu ddim, ma gan fy Nghaffi ( https://www.caffigruff.cc/race-team-tim-rasio ) dîm rasio beics. Fel bach o hwyl yn yr amser annodd yma, ges i’r syniad iddyn nhw fod yn rhan o’r apêl https://www.justgiving.com/fundraising/caffi-gruff-covid19 “justgiving” i godi arian trwy siafio ein gwallt.
Y syniad yw, wrth fod pobl moyn gweld ein reidwyr yn creu lluniau ohonyn nhw eu hunain heb wallt, fydde’n annog pobl i roi tamed o arian tuag at yr achos hanfodol yma.
Ar ôl neithiwr, a bod mas ar lawnt y Tabernacl efo fy nheulu yn clapio gwaith yr NHS am 8yh, ôn i wir moyn trio neud rhywbeth wrth feddwl “mas o’r bocs”, i helpu mewn ffordd fach.
Ma gyda ni 11 o reidwyr ar y tîm, ac am bob £200 a geith i godi, fydd enw yn cael ei dynnu mas o het i “siafio” i ben. Gwyliwch mas am lluniau yn fuan, a diolch am unrhyw gyfraniad.
Gruff