Rydych CHI’n Ddigon!

Fy fersiwn i o bethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud gyda phlant yn y cyfnod cythryblus hwn.

Rhiannon Salisbury
gan Rhiannon Salisbury

Wrth sgrolio drwy Facebook y noson o’r blaen, dyma fi’n dod ar draws poster ‘Dos and Don’ts with your Kids’ ar grŵp Facebook Clitheroe COVID-19 Mutual Aid. Poster syml, llun o ddau blentyn a phwyntiau bwled yn rhestru cynghorion. Es i ati i rannu’r poster oherwydd ei symlrwydd ac oherwydd y cynghorion call oedd arno. Mewn cyfnod mor ansicr i bawb, pan ddaw pob math o wybodaeth atom o bob cyfeiriad, gall dilyn restr syml fod yn eithriadol o ddefnyddiol i bob rhiant.

Dyma, felly, fy fersiwn i o bethau i’w gwneud ac i beidio â’u gwneud gyda phlant yn y cyfnod cythryblus hwn. Mab pedair oed sydd gen i, ond dwi’n gobeithio’n fawr y bydd y cynghorion yn ddefnyddiol ar gyfer plant o bob oed.

Gwnewch!

  • Gwenwch a chwtshwch mor aml â phosib.
  • Yn unol â chyngor y llywodraeth, cadwch eich plant adref gymaint â phosib.
  • Cadwch gymaint ag y medrwch chi at drefn feunyddiol (gall hyn fod yn fuddiol i chi ac i’ch plentyn).
  • Dechreuwch y diwrnod â rhywfaint o ymarfer corff.
  • Gwnewch amser ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau hwyliog – gemau bwrdd, chwarae cardiau, gwylio Cyw/Awr Fawr/ffilm – ond peidiwch â’i gor-wneud hi: mae’n iawn i blant deimlo’n bôrd!!
  • Darllenwch, darllenwch a darllenwch gyda’ch plant, ac nid yw’n ddrwg o beth iddyn nhw eich gweld chi’n darllen hefyd.
  • Canwch, dawnsiwch a byddwch yn ddwl weithiau.
  • Cadwch mewn cyswllt ag anwyliaid dros y ffôn ac ar y cyfryngau cymdeithasol – mae Facetime yn wych!

Peidiwch!

Yn unol â chyngor y llywodraeth, peidiwch â gwneud y pethau hyn:

  • Mynd â’ch plant i siopa.
  • Ymweld â’r henoed ac unigolion mewn afiechyd.
  • Mynd i barciau chwarae.
  • Trefnu i’ch plant weld eu ffrindiau, am y tro.

Mae’r rhestr o bethau i’w gwneud dipyn yn fwy na’r rhestr o bethau i beidio â’u gwneud, ac mae hynny’n fwriadol. Yn y pen draw, er gwaethaf pob darn o gyngor, gall sicrhau fod eich plentyn yn cael eich cwmni chi fod yn ddigon ar ei ben ei hun. Ar adegau anodd, gall fod yn hawdd iawn colli golwg ar y pethau cadarnhaol. Dros yr wythnosau nesaf, mae’n debygol y daw cyfnodau heriol i’n rhan a dwi am wneud fy ngorau i gofio fy mod i, fel pawb arall, yn trio fy ngorau – yn enwedig wrth drio gweithio o adref ar ben pob dim arall!! Yn fwy na dim, cadwch yn saff.

Gan fod cyngor y llywodraeth yn newid yn barhaus, cadwch lygad ar wefan https://llyw.cymru/coronafeirws i gael y newyddion diweddaraf.