Geiriau tafodieithol Gogledd Ceredigion 

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Mae ‘na gyfoeth i’n hiaith ni, yn d’oes? Geiriau tafodieithol, dywediadau a llond gwlad o hiwmor. Dros y dyddiau diwethaf, rwyf wedi bod yn meddwl am fy hoff eiriau tafodieithol i a chymaint o biti fyddai eu colli. Felly, rwy’n mynd i enwebu tri pherson i feddwl am eu hoff eiriau tafodieithol nhw a gofyn iddynt eu rhoi yn y blwch sylwadau isod – mewn gobaith o ffurfio casgliad bach ar-lein ar gyfer tafodiaith gogledd Ceredigion.

Does dim rhaid iddynt fod yn hen eiriau, mae ’na ddigon o eiriau newydd a ffyrdd bach clyfar o esbonio pethau’r oes hon ar gael erbyn hyn hefyd. Felly, beth amdani, bobl Ceredigion?

I ddechrau ’te, dyma dri o’m hoff eiriau tafodieithol i:

1. Serlog – gair i ddisgrifio’r nos pan fo’r awyr yn llawn sêr

2. Spralen – gair i ddisgrifio dafad sydd wedi colli hanner ei gwlân

3. Twten – yr unigol ar gyfer tatws. Mae’n air bach twt a chiwt, a llawer mwy blasus na thaten, tatw neu dato 😉

Nesaf, rwy’n enwebu Gwenan Tycam, Elen Sarnau ac Elen Pencwm. Meddyliwch am dri o’ch hoff eiriau tafodieithol chi a rhowch nhw yn y sylwadau isod. Yna, enwebwch dri pherson arall i wneud yr un fath.

A chroeso i unrhyw un gyfrannu eu hoff eiriau tafodieithol yn y sylwadau isod.

4 sylw

Mererid
Mererid

Dipyn o haden. A ‘na dorth o fenyw hi’

Medi James
Medi James

Mae na lawer, fel fi wedi dod i fyw i Ogledd Ceredigion. Ces fy magu yn Eifionydd ac wedyn yn Llŷn. Fy hoff air o Geredigion ydy shetin, ag yn i ddweud o fel gog siwr o fod. Un gair o ‘mhlentyndod dwi heb ei glywed ers blynyddoedd ydy ‘cobog’. Rhowch gynnig ar ddyfalu ei ystyr.

Daniel Johnson
Daniel Johnson

Wrth fy modd fo shetyn fyd Medi. Dim clem am ‘cobog’ – ceffyl?!

Richard Owen
Richard Owen

Rwyf wedi sylwi fod rhai yng ngogledd Ceredigion, yn enwedig rhai o’r to hŷn efallai, yn dweud ‘edi’ ac nid ‘ydi’ neu ‘odi’. Rwy’n credu fod hyn yn gyfyngedig i’r rhan hon o Gymru. Gair bach, ond un pwysig iawn!

Mae’r sylwadau wedi cau.