Noson wobrwyo Clwb Athletau Aberystwyth

Cynnal noson wobrwyo lwyddiannus yn dilyn seibiant oherwydd pandemig Covid-19

gan Deian Creunant
Y cyn gadeirydd Ian Evans yn derbyn ei wobr gan y cadeirydd newydd Paul Williams

Y cyn gadeirydd Ian Evans yn derbyn ei wobr gan y cadeirydd newydd Paul Williams

Lyndsey Wheeler a Paul Williams

Lyndsey Wheeler a Paul Williams

Lynwen Huxtable ac Ian Evans

Lynwen Huxtable ac Ian Evans

Neil Gamble a Paul Williams

Neil Gamble a Paul Williams

Deian Creunant

Deian Creunant

Cynhaliwyd y noson wobrwyo eleni yng Nghlwb Golff Aberystwyth ac roedd yn gyfle i edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a chydnabod y llwyddiannau a’r gwaith caled y mae llawer yn ei wneud i redeg y clwb.

Aeth y wobr am y redwraig sydd wedi gwella fwyaf i Lyndsey Wheeler, ac roedd hi wrth ei bodd,

“Mae bod yn aelod o’r clwb yma wedi bod yn wych i mi, nid yn unig o safbwynt cystadleuol, ond yn gymdeithasol hefyd. Mae’n glwb hynod gefnogol, gyda hyfforddwyr a chyd-weithwyr yn helpu ei gilydd. Mae fy rhedeg wedi datblygu yn gyflym, yn llythrennol mewn sawl achos, ac rwy’n edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous arall gyda’r clwb.”

Aeth y wobr am y rhedwr sydd wedi gwella fwyaf i Neil Gamble a dderbyniodd hefyd wobr Pugnis et Calcubus a ddyfernir am gyfraniad i’r clwb. Dywedodd Neil,

“Mae hwn yn glwb arbennig iawn. Mae’n cynnig tîm hyfforddi cryf yn ogystal â rhwydwaith cefnogi gwych ac mae mor gynhwysol – mae croeso i unrhyw un ac mae gweithgareddau wedi’u teilwra’n glyfar i ganiatáu i bawb gymryd rhan. Rwyf wedi bod yn ffodus i gael cefnogaeth y clwb i wneud fy nghymwysterau hyfforddi dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n falch o gael y cyfle i roi rhywbeth yn ôl i’r clwb.”

Roedd gwobr arbennig hefyd i’r hyfforddwr Ian Evans wrth i’w gyfnod fel cadeirydd ddod i ben, a chyflwynwyd aelodaeth oes iddo fel cydnabyddiaeth o’i waith. Dywedodd Ian:

“Rwy’n falch iawn o dderbyn y wobr am wneud swydd sydd wedi bod yn anrhydedd anhygoel dros y blynyddoedd. Heb os, mae heriau yn yr oes sydd ohoni gyda gweinyddiaeth sefydliad o’r fath, ond mae’r aelodau’n werthfawrogol iawn ac yn cynnig cefnogaeth yn gyson. Efallai fy mod yn rhoi’r gorau i fod yn gadeirydd, ond rwy’n gobeithio y bydd fy mherthynas â’r clwb yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mae gan gynghrair flynyddol rhedeg y clwb bedwar categori gwahanol i aelodau gystadlu ynddynt, a’r enillwyr unigol ym mhob categori eleni oedd Owain Schiavone, Lynwen Huxtable, Lyndsey Wheeler a Hannah Dee.

Rhoddwyd gwobr aelod clwb y flwyddyn i Deian Creunant.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ni chynhaliwyd y gwobrau ers rhai blynyddoedd. Felly cyflwynwyd gwobrau hefyd i enillwyr cynghreiriau’r blynyddoedd blaenorol, sef Owain Schiavone, Paul Williams, Mark Whitehead, Damian Sidnell, Zoe Kennerley, Cara Nisbet, Lynsey Gamble, Lynwen Huxtable, Helen Stretch, Alex James, Neil Gamble, Megan Williams ac Amanda Mallows.

Mae’r cadeirydd newydd, Paul Williams, yn credu bod dyfodol cyffrous i Glwb Athletau Aberystwyth,

“Mae’r gwobrau hyn yn ymwneud â chydnabod y cryfder sydd gennym yng Nghlwb Athletau Aberystwyth, ac nid yn unig yn yr adran hŷn – mae gennym adran iau boblogaidd iawn hefyd. Mae yna weithgareddau clwb yn cael eu cynnal bedair noson yr wythnos, sy’n weddol anhygoel, a hoffwn ddiolch i’r holl hyfforddwyr am yr oriau maen nhw’n eu rhoi’n wirfoddol i gynnig sesiynau mor amrywiol.

“Os oes unrhyw un yn ystyried rhoi cynnig arni, byddwn yn eu hannog i ddod i weld beth sydd gennym i’w gynnig. A gallaf warantu y byddant wedi gwirioni’n gyflym iawn.”

Os hoffech glywed mwy am Glwb Athletau Aberystwyth ac ymuno yn ei weithgareddau, edrychwch amdano ar Facebook.