Mainc Llesiant HAHAV

Pobl ifanc Aberystwyth yn cynnig mainc yn rhodd ym Mhlas Antaron

gan Tess Thorp

Ar yr 2il o Ebrill, gyda’r haul yn gwenu, cyflwynwyd mainc llesiant i HAVAV gan aelodau Grŵp Ieuenctid Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth.

Bydd y fainc yn cael ei gosod yn yr ardd ym Mhlas Antaron i gleientiaid, ymwelwyr a staff ei mwynhau.

Elusen a arweinir gan wirfoddolwyr yw HAHAV sy’n darparu cymorth am ddim i bobl ledled Ceredigion sy’n byw gyda salwch anwelladwy neu salwch sy’n cyfyngu ar fywyd. Canolfan HAHAV ym Mhlas Antaron, Aberystwyth, yw pencadlys HAHAV a Chanolfan Byw yn Dda. Yn -gyn-westy, mae Plas Antaron yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau a mannau i ddatblygu gwasanaethau newydd a chyfleoedd cyfarfod i gleientiaid HAHAV.

Mae Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth yn grŵp bach o wyth o bobl ifanc rhwng 18 ac 20 oed, dan arweiniad Gwasanaeth Gwaith Ieuenctid ac Ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos, ac yn trefnu a chyflwyno amrywiol brosiectau cymunedol, gweithgareddau ymwybyddiaeth a digwyddiadau yn lleol.

Bob blwyddyn, mae’r grŵp yn dewis ‘ymgyrch’ a’r llynedd, gwnaethant gais i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) am Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc, a oedd yn eu galluogi i brynu deunyddiau i greu mainc llesiant. Cafodd y fainc les ei dylunio, ei chreu a’i haddurno mewn partneriaeth â Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT). Bu’r grŵp yn gweithio gydag adran gwaith coed HCT i greu mainc a fyddai’n addas ar gyfer y gymuned.

Dywedodd Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth:

“Fe benderfynon ni wneud cais am grant i’n helpu ni i greu mainc llesiant, gan mai ein hymgyrch ddewisol y llynedd oedd ‘iechyd meddwl a lles’. Cawsom gyfle i weithio gyda thiwtoriaid gwaith coed yn HCT i greu’r fainc fel yr oeddem ei eisiau. Fel grŵp, edrychon ni ar wahanol leoliadau ar gyfer y fainc a phenderfynon ni fynd at HAHAV ym Mhlas Antaron ym Mhenparcau. Rydym i gyd yn lleol i Benparcau ac Aberystwyth, ac roeddem yn teimlo y byddai’n braf rhoi’r fainc i elusen leol sy’n helpu pobl yn ein cymuned. Fe wnaethon ni fwynhau’r cyfle i drosglwyddo’r fainc i Grŵp Celfyddydau HAHAV.”

Dywedodd Tess Thorp, Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn HAHAV:

“Mae’r fainc yn ychwanegiad gwych i’n Gardd Les ac rydym wrth ein bodd cael yr anrheg gan Grŵp Ieuenctid y Llysgenhadon. Maen nhw mor feddylgar a thalentog, a bydd yr ymwelwyr niferus â Phlas Antaron yn ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Dweud eich dweud