Deian a Loli yn Aberystwyth – sioe ychwanegol

Sioe dydd Sadwrn wedi gwerthu mas 🙁 Sioe ychwanegol nos Wener 😀

Frân Wen
gan Frân Wen
Deian a Loli Y Ribidirew Olaf

Sioe theatr fyw Deian a Loli

Deians a Lolis

Y ddau bar o Deians a Lolis

Newyddion gwych! Mae Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, wedi cyhoeddi y bydd perfformiad ychwanegol o Deian a Loli: Y Ribidirew Olaf am 6pm nos Wener, 10 Mai 2024.

Ond byddwch yn gyflym … roedd y tocynnau ar gyfer y dydd Sadwrn wedi diflannu mewn dim!

Dyma’r tro cyntaf i Deian a Loli gamu i fyd theatr byw.

Mae Y Ribidirew Olaf yn digwydd ar ddiwrnod cynta’r efeilliaid yn yr ysgol uwchradd, ond dydi Loli ddim eisiau mynd. Ar ben hynny mae goriadau’r car ar goll ac mae Loli’n mynnu mai eu ffrind dychmygol sydd wedi eu cuddio.

Does dim amdani ond dweud y gair hud – RIBIDIREW! – er mwyn rhewi eu rhieni a mynd ar drywydd y ffrind dychmygol.

Mae’r sioe wedi ei datblygu i’r llwyfan gan dîm craidd y gyfres deledu wreiddiol, sef Manon Wyn Jones fel dramodydd ac Angharad Elen fel cynhyrchydd creadigol.

Perfformiadau amseroedd ysgol:
9 Mai, 10am
10 Mai, 10am

Perfformiadau gyda’r nos neu ar y penwythnos
10 Mai, 6pm
11 Mai, 11am*

*Perfformiadau BSL a Sain Ddisgrifiad Cymraeg

Tocynnau
https://aberystwythartscentre.co.uk/?swp_form%5Bform_id%5D=1&s=deian+a+loli

Dweud eich dweud