Noson i ddathlu cyfraniad Elvey ac Eirionedd

Cymdeithas gefeillio yn diolch am waith unigolion arbennig

Mererid
gan Mererid
EirioneddABaskerville

Eirionedd A Baskerville

Elvey MacDonald

Elvey MacDonald

Mewn noson arbennig ar y 15fed o Fai yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth-Esquel yn dathlu cyfraniad arbennig Eirionedd Baskerville ac Elvey MacDonald.

Ym 2022, bu farw Elvey, a gafodd ei eni yn Nhrelew yn 1941 a’i fagu yn y Gaiman, cyn symud i Gymru yn 1965.

Roedd yn gyn-bennaeth adran Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru, ar ôl cyfnod yn gweithio fel trefnydd cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Wedi byw yn Aberystwyth am ran sylweddol o’i fywyd, roedd Elvey yn trefnu teithiau i Batagonia a chynrychioli Cymdeithas Cymru-Ariannin ar banel Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut.

Fe ysgrifennodd nifer o gyfrolau yn cofnodi profiadau Cymry Patagonia, gan gynnwys ‘Y Hirdaith a ‘Dyddiadur Mimosa’. Enw ei hunangofiant oedd ‘Llwch‘.

Roedd yn golled i Ogledd Ceredigion yn ogystal ag Abermagwr pan fu farw Eirionedd. Roedd yn aelod gweithgar gyda’r Gymdeithas Gefeillio, papur bro’r Ddolen, yn ogystal â’i gwaith diflino yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddodd lyfr ‘Patagonia 150- Yma i Aros’ (y Lolfa), oedd yn dathlu’r 150 mlynedd ers i Gymry ymfudo i Batagonia, dyma olwg drwy lygad y camera ar y bywyd yno ddoe a heddiw. Roedd yn cynnwys ffotograffau o archifau a chasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, ac yn cyfuno ei gwaith a’i diddordeb mynwesol ym Mhatagonia.

Bydd y noson am ddim yn Amgueddfa Ceredigion ar nos Fercher, 15fed o Fai 2024, gyda chroeso i bawb sydd am ddathlu ein cysylltiad gyda Phatagonia.

Noson yn dechrau am 7.30, gyda lluniaeth ysgafn am 7.