Papur Sain Ceredigion

Allwch chi wirfoddoli i gynhyrchu papur sain i’r deillion?

Talking_Newspaper_1.width-500

Y Gwirfoddolwyr ym Mhlas Antaron

Lynne Blanchfield sydd yn esbonio ei phrofiad fel gwirfoddolwr i Bapur Sain Ceredigion

“Ym mis Medi 2023 ces i e-bost gan ffrind yn cyfeirio at erthygl am wasanaeth Papur Sain, lle’r oedd Syd Smith, cadeirydd y gwasanaeth, yn galw am fwy o wirfoddolwyr i ddarparu darnau o bapurau newydd a chylchgronau bro a’u recordio ar gyfer y deillion a’r rhannol ddall. Ro’n i’n chwilio am ryw ffordd o wneud gwahaniaeth bach i bobl eraill, ac i ddefnyddio fy Nghymraeg (ail iaith) yn y gymuned rywsut.

Felly es i i gyfarfod gwirfoddolwyr i weld beth fyddai’n ei olygu, a dyma fi’n dechrau fis Hydref ym Mhlas Antaron, Penparcau. Dysgais sut i ddewis, golygu a thorri neu farcio erthyglau yn Gymraeg, sydd o ddiddordeb ac yn addas ar gyfer y deillion a’r rhannol ddall.

Mae gwirfoddolwyr eraill yn eu recordio a’u hanfon nhw at dderbynwyr ledled Ceredigion ar gofbinnau, ac yn eu derbyn yn ôl yn barod ar gyfer y sesiwn nesaf. Felly, mae angen digon o wirfoddolwyr i wneud i’r gwasanaeth redeg yn esmwyth! Rwyf yn mwynhau’r teimlad o roi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned leol. Dim ond unwaith y mis mae angen i fi fynychu sesiwn torri, felly mae’n ychydig o amser i’w gynnig ond yn werth chweil.

Mae hanes y gwasanaeth yn un hir a diddorol, felly dyma ychydig ffeithiau i osod y gwaith yn ei gyd-destun. Cafodd y gwasanaeth ei ddechrau gan Ronald Sturt, darlithydd mewn llyfrgellyddiaeth yn y 70au, a aeth i Sweden a dod ar draws y syniad o recordio papurau ar gyfer y deillion a’r rhannol ddall, ar dâp. Gyda chyllid gan Y Clwb Rotari a’r Ford Gron yn Aberystwyth, sefydlwyd gwasanaeth y Papur Sain yma ym 1970, a nawr mae dros 300 ohonyn nhw ar draws y DU.

Yn ystod y pandemig, collodd y gwasanaeth ei gartref gyda Chyngor Sir Ceredigion. Roedd niferoedd y gwirfoddolwyr wedi gostwng, ac roedd y gwasanaeth mewn perygl o ddod i ben.

Ers hynny, trwy ymdrechion Syd Smith ac eraill i adfywio’r gwasanaeth, cafwyd le ym Mhlas Antaron dan nawdd HaHav (Hosbis yn y Cartref), gyda defnydd o stafell i osod peiriannau recordio, bwrdd ar gyfer y torwyr a’u papurau, ac amser i gynhyrchu’r cofbinnau sy’n cael eu hanfon at 35 o dderbynwyr.

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/66984670

Mae’r nifer o wirfoddolwyr wedi cyrraedd hyd at 24 erbyn hyn, ond mae angen mwy i sicrhau dyfodol y gwasanaeth – sy’n edrych yn llawer mwy gobeithiol erbyn hyn.

Os oes diddordeb gennych mewn gwirfoddoli i’r Papur Sain, neu yn nabod rhywun fyddai a diddordeb mewn derbyn cofbin, cysylltwch â:

Syd Smith, ebost syd@walkers.tv, ffôn 07773719723 neu 01970625122.

Dweud eich dweud