Gardd newydd i drigolion Trefechan

Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ariannu gardd newydd

Mererid
gan Mererid

Dydd Sadwrn, 17eg o Fehefin 2023, agorwyd gardd newydd Lleoedd Lleol ar gyfer natur ar gyfer trigolion yng Ngerddi’r Ffynnon, Trefechan, Aberystwyth.

Mae Gerddi’r Ffynnon yn floc o 30 o fflatiau Tai Wales & West (WWH) yn ei berchen ac yn ei reoli. Mae ganddo ardd gymunedol, sy’n cynnwys tir ar lethr serth yn bennaf y tu ôl i wal gynnal, ynghyd ag ardal gymharol fach o dir gwastad o amgylch yr adeilad.

Yn 2022, cysylltodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Lleol WWH, â Rachel Auckland, Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol Ceredigion, gyda chynnig ar gyfer prosiect i adfer yr ardd.

Dywedodd Barry Adams, un o breswylwyr Gerddi’r Ffynnon:

“Pan gysylltais â Rhiannon Ling nôl ym mis Mehefin 2022, nid oeddwn wedi rhag-weld yr ymdrech anhygoel y byddai ein preswylwyr yn ei wneud. Roedd cymaint o frwdfrydedd gan gymdogion nad oedd wedi dangos diddordeb yn y gerddi o’r blaen, ac mae’r cyfan yn glod i’r rheiny sydd wedi gwneud cyfraniad mor wych. Hoffwn ddiolch i bawb am droi rhywbeth a arferai fod yn ddolur llygad diflas ac a oedd wedi tyfu’n wyllt i fod yn ardal hardd i eistedd a mwynhau awyrgylch bywyd gwyllt ac arogleuon blodau a blodau gwyllt.”

Lluniodd Hefin Jones, Swyddog Rheoli Asedau WWH, gynllun bras i adeiladu mwy o welyau uchel, a chyflwynodd hyn i glwb cymdeithasu’r preswylwyr.

Trwy ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, a ddarparwyd trwy’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, llwyddodd Rachel i gael Gail Robinson, dylunydd gardd o My Garden Paradise, i fod yn rhan o’r prosiect. Siaradodd Gail â’r preswylwyr yn ystod eu bore coffi wythnosol a lluniodd gynllun i greu gwelyau uchel o bob lliw a llun i fodloni anghenion mynediad amrywiol y trigolion sy’n defnyddio ystod o gynorthwywyr symudedd.

Agorwyd yr ardd gan y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd:

“Mae’n fraint cael agor Gerddi’r Ffynnon sydd wedi cael eu cynllunio, eu hau a’u tyfu gan breswylwyr a ffrindiau’r fflatiau. Mae’n wych gweld Tai Wales & West yn helpu trigolion i wireddu eu nodau o gael gardd trwy gymorth gan Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion. Gobeithiwn weld yr ardd yn blodeuo fel y mae’r berthynas rhwng y preswylwyr a’r gymdeithas dai. Llongyfarchiadau.”

Ychwanegodd Rachel Auckland, Swyddog Partneriaeth Natur Leol Ceredigion:

“Mae’n hyfryd gweld sut y gall prosiect garddio natur o’r math hwn ddod â chymaint o fanteision i fywyd gwyllt ac i’n cymunedau. Mae’r prosiect hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych i bawb a gymerodd ran. Gobeithiwn feithrin yr wybodaeth, sgiliau a’r hyder a gafwyd i fynd ymlaen i greu mwy o Leoedd Lleol ar gyfer Natur ar hyd a lled y sir – gwyliwch y gofod.

Yn amlwg, mae Aberystwyth yn rhan o warchodfa Biosffer Dyfi a ddynodwyd gan UNESCO. Ymhlith eu llwyddiannau niferus, mae’r Biosffer wedi helpu i wrthdroi nifer y gwenoliaid trwy osod bocsys nythu sydd wedi cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer yr adar anhygoel hyn. Rwy’n gobeithio y gallwn ehangu’r prosiect hwn i osod bocsys nythu i wenoliaid yma yng Ngerddi’r Ffynnon ac ar safleoedd eraill gan WWH, gan gynnwys Maes y Môr sydd gerllaw.”

Dywedodd Rhiannon Ling, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Thai Wales & West:

“Mae’r prosiect hwn wedi cyflawni cymaint yn barod. Mae wedi dod â phreswylwyr Gerddi’r Ffynnon ynghyd fel cymuned wrth ddylunio a datblygu eu gardd. Maent yn falch o’r hyn maent wedi’i gyflawni, a dylent fod hefyd. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwir wahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau ein preswylwyr.”

Dywedodd George Bryan, Cadeirydd Clwb Cymdeithas y Preswylwyr:

“Dechreuodd y cyfan gyda Barry, un o’r preswylwyr, a awgrymodd ein bod yn adnewyddu’r gwelyau uchel yng nghefn yr eiddo. Felly, aethom ati i gysylltu â Rhiannon o WWH i weld a allem gael cyllid. Rhoddodd hi ni mewn cysylltiad â Rachel o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion. Gwnaethom gais am grant ac roeddem yn llwyddiannus. Penderfynom wedyn i adnewyddu’r ardd gyfan. Nid gardd ddangos yw hon, ond gardd yr ydym yn ei charu ac sy’n esblygu o hyd. Mae gennym nifer helaeth o adar a bywyd gwyllt yn ymweld â’r ardd erbyn hyn. Mae gennym 11 o breswylwyr sydd wedi cymryd at y gwaith o gynnal a chadw rhannau o’r ardd. Mae’r ardd yn bendant wedi cryfhau cymuned Gerddi’r Ffynnon gan fod mwy a mwy o bobl yn cymryd rhan.”

Mae’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cefnogi adferiad natur ar raddfa fach trwy wella bioamrywiaeth wrth ddod â buddion i gymunedau difreintiedig. Mae’n gwneud hyn trwy greu ‘byd natur ar garreg eich drws’. Y syniad yw, trwy ddod â phobl i gysylltiad agosach â byd natur, boed hynny trwy blannu coed, tyfu bwyd, neu hau blodau gwyllt ar gyfer peillwyr, y bydd pobl yn fwy tebygol o werthfawrogi, gofalu a diogelu natur.