Arwyr Gogledd Ceredigion yn cael eu hurddo

Pedwar o’r fro yn cael anrhydeddau’r Orsedd 2023

Mererid
gan Mererid
Richard-Owen
Marian
Pedr

Nid 1, nid 2, nid 3, ond 4 anrhydedd yr Orsedd i unigolion o ardal Bro Aber 360.

I ni’r Cymry, mae anrhydeddau’r Orsedd yn bwysig gan ei fod yn cydnabod oes o gyfraniad arbennig. Dim ond 50 sydd yn cael ei roi drwy Gymru, felly mae’n anhygoel fod pedwar yn dod o’n hardal fach ni.

Er mai o Un o Ynys Môn yn wreiddiol yw Richard Owen, mae un o drigolion hirdymor Penrhyn-coch. Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy’i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd. Fe fu yn Gadeirydd y Panel Llên Canolog yr Eisteddfod Genedlaethol am wyth mlynedd, ac fel aelod cyn hynny, a bu’n aelod o Bwyllgor Llên lleol Eisteddfod Ceredigion 2022. Bu’n weithgar yn ei gymuned leol dros y blynyddoedd, gyda Chymdeithas y Penrhyn, Cyngor Cymuned Trefeurig, papur bro Y Tincer a Phlaid Cymru.

Llongyfarchiadau hefyd i Marion Loeffler a symudodd i Gymru, a bu’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth gan arbenigo ar hanes diwylliant, gwleidyddiaeth a chrefydd y Cymry yn y 18fed ganrif a’r 19eg. Er yn Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n parhau i fyw yn Aberystwyth ac yn weithgar yn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant, priodol iawn yw derbyn Marion yn aelod o’r Orsedd.

Er mai brodor o Benrhyndeudraeth yw Pedr ap Llwyd, Comins Coch yw ei gartref. Ef yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal a bod yn Ynad Heddwch yn Llys Aberystwyth ers ugain mlynedd, mae hefyd wedi gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau dylanwadol yng Nghymru, ac yn rhan bwysig o’r ymdrech codi arian ar gyfer Eisteddfod Tregaron yn ardal Aberystwyth.

Yn olaf, mae John Roberts wedi bod yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul, rhaglen sy’n rhoi lle i faterion crefyddol a moesol. Wedi setlo ar Ffordd y Gogledd gyda Sara, ac mae’n dad i Mari Siôn, Lleucu, Annes a Gwen. Mae cyfraniad John i fyd darlledu ac i fyd trafod drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod, ac yn dal i fod, yn sylweddol a phwysig. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon.

John-Roberts-ac-Owain-Schiavone
John Roberts ac Owain Schiavone yn y lansiad yn y Marine, Aberystwyth

Llongyfarchiadau mawr i’r pedwar ohonoch ac edrychwn ymlaen i’r Urddo ym Moduan ym mis Awst.