Llongyfarchiadau i’r EGO

Oes gwobr ar y ffordd i Aberystwyth?

Mererid
gan Mererid

WMA 2022 Logo

Mae’n fis y gwobrau. O’r Oscar i’r Baftas – mae pob math o wobrau yn cael eu dyfarnu.

Mae gwefan Bro Aber 360 yn falch iawn fod Aberystwyth EGO wedi ei enwebu ar gyfer gwobr Newyddiaduraeth Wirfoddol Annibynnol (Independent Community Journalism) Wales Media Awards 2022 sydd yn cael ei noddi gan ITV Cymru Wales.

Byddant yn wynebu Cwmbran Life a’r Caerphilly Observer am y wobr.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar y 25ain o Fawrth 2022 yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd.

Dyma’r tro cyntaf ers 2019 iddynt gael eu henwebu.

Beth yw gwraidd EGO?

Cylchgrawn i annog gweithgaredd economaidd oedd yr EGO yn wreiddiol gyda’r enw yn golygu Economic Growth Opportunity. O wneud cylchgrawn am ddim gyda dosbarthiad eang, y byddai unigolion yn defnyddio’r cylchgrawn, a’r cynigion o fewn y cylchgrawn i gefnogi busnesau lleol.

Pwy sydd yn gyfrifol am yr EGO?

Yn 2014, creodd Huw Bates a Patrick O’Malley y cylchgrawn yn wreiddiol i Aberystwyth gan ehangu i Aberaeron yn hwyrach. Y bwriad oedd rhannu newyddion da ac i hyrwyddo a dathlu’r bobl, busnesau, sefydliadau a chymunedau’r ardal.

Roedd y cyfnod clo yn heriol, gyda’r cylchgrawn yn symud i fod yn gylchgrawn digidol.

Maent yn parhau i gyhoeddi yn fisol, gan rannu stori gan Yr Angor, yn ogystal a bod yn gefnogwyr Bro Aber 360, ac yn rhannu’r uchafbwyntiau yn fisol. Ym mis Chwefror, eira mawr Penrhyn-coch oedd y stori.

Yr EGO mis Chwefror

Huw Bates

Uchafbwyntiau EGO’r mis hwn!

Da iawn Huw a Patrick a daliwch ati.