Cerrig mân yn cofio’r plant a laddwyd yn Gaza

Wedi’i threfnu gan Heddwch ar Waith, ymgyrch newydd dros heddwch a chflawnder

gan Sue jones davies

Ymgasglodd nifer helaeth o bobl Aberystwyth ac ymwelwyr i’r dre, i gefnogi galwad Heddwch ar Waith i osod carreg am bob plentyn a laddwyd yn Gaza ers Hydref 7fed, gan gynnwys y rhai a laddwyd yn Israel ar Hydref 7fed. Pymtheg mil (15,000) ohonynt. Fel ‘sgrifenodd John Egan yn ei daflen yn esbonio pwysigrwydd UNRWA (Asiantaeth Rhyddhad a Gwaith y Cenhedloedd Unedig) “Roedd enw gan bob plentyn, yn union fel sydd gan ein plant ni. Pob un yn rhan amhrisiadwy o’u teulu. Rydym fel cymuned yn gwrthod anghofio amdanynt, er nad yw pob enw’n hysbys. Gall newyddion di-ddiwedd am y meirwon di-enw beri i ni anghofio mai plant ydyn nhw fel ein plant ni. Y rhai y byddwn yn gofalu amdanynt yn eu hangen a’u diniweidrwydd ac sydd yn hollol ddi-euog.”

Ar faner a wnaethpwyd gan Dorry Spikes, yn Gymraeg, Arabeg, Hebraeg a Saesneg, gwelwyd y neges ingol hon,

Nid rhifau ydym. Mae gennym enwau.” 

Dechreuwyd gosod y cerrig with y “bar cicio”ger Consti gan greu llinell yn ymestyn i’r harbwr ac ysgrifennwyd enwau ac oedran rhai o blant Gaza ar bosteri wedi’u clymu i reilyngs y prom. Crëwyd colomen drawiadol o gerrig gwynion yn y gro wrth y Bandstand, gan Brian Swaddling, Saoirse Morgan, Valériane Leblond a chriw o blant.

Wrth y Bandstand ar ddiwedd y prynhawn cyfeiriodd Elin Jones A.S. yn ei haraith, at pa mor aml mae hi wedi bod yn rhan o weithgarwch yn y dre pan fydd y gymuned yn mynegi ei gwrthwynebiad a dicter tuag at ryfel ac anghyfiawnder ac yn galw am heddwch. Darllenodd neges hefyd  gan Ben Lake A.S. na allai fod yn bresennol: “Mae hi mor bwysig ein bod yn parhau i godi llais dros bobl a phlant Gaza, ac i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i ddefnyddio’i grym i sicrhau cadoediad yn ogystal â chyfiawnder yn unol â threfniadau’r C.U. a’r ICC,” meddai.

Siaradodd Y Cynghorydd Alun Williams yn ddirdynnol am ei ymweliad â Gaza rai blynyddoedd yn ôl. Am y croeso a gafodd gan y Palestiniaid, eu heiddgarwch i ddangos i’r byd eu bod yn bobl wâr a diwylliedig. Aeth ymlaen i ddweud bod yr ardaloedd hynny heddiw wedi’u dinistrio ac o dan rwbel. Y bobl hynny y bu’n sgwrsio â nhw fwy na thebyg wedi’u lladd.

Derbyniodd Kerry Freguson, Maer Aberystwyth, goeden Olewydd gyda negeseuon wedi’u clymu arno gan blant lleol. Bydd hon yn cael ei phlannu ym mharc Maes Gwenfrewi. Cafwyd hefyd berfformiad gan Gôr Gobaith, a darllenwyd dwy englyn wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood, ar gyfer yr achlysur. Roedd gwaith a grëwyd gan y beirdd Dafydd Prichard, Eurig Salisbury, Menna Elfyn ac eraill hefyd wedi’u harddangos ar bosteri.

Roedd yr arian a gasglwyd ar y prom ac o’r noson efo Robin Huw Bowen, meistr y delyn deires a Bwca yn perfformio, hefyd a drefnwyd gan John Egan yn Amgueddfa Ceredigion nos Wener yn mynd tuag at UNRWA, i roi cymorth dyngarol i ffoaduriadiad Palesteinaidd.

Dweud eich dweud