Dipyn o haden. A ’na dorth o fenyw hi’
Mae ’na gyfoeth i’n hiaith ni, yn d’oes? Geiriau tafodieithol, dywediadau a llond gwlad o hiwmor. Dros y dyddiau diwethaf, rwyf wedi bod yn meddwl am fy hoff eiriau tafodieithol i a chymaint o biti fyddai eu colli. Felly, rwy’n mynd i enwebu tri pherson i feddwl am eu hoff eiriau tafodieithol nhw a gofyn iddynt eu rhoi yn y blwch sylwadau isod – mewn gobaith o ffurfio casgliad bach ar-lein ar gyfer tafodiaith gogledd Ceredigion.
Does dim rhaid iddynt fod yn hen eiriau, mae ’na ddigon o eiriau newydd a ffyrdd bach clyfar o esbonio pethau’r oes hon ar gael erbyn hyn hefyd. Felly, beth amdani, bobl Ceredigion?
I ddechrau ’te, dyma dri o’m hoff eiriau tafodieithol i:
1. Serlog – gair i ddisgrifio’r nos pan fo’r awyr yn llawn sêr
2. Spralen – gair i ddisgrifio dafad sydd wedi colli hanner ei gwlân
3. Twten – yr unigol ar gyfer tatws. Mae’n air bach twt a chiwt, a llawer mwy blasus na thaten, tatw neu dato ;)
Nesaf, rwy’n enwebu Gwenan Tycam, Elen Sarnau ac Elen Pencwm. Meddyliwch am dri o’ch hoff eiriau tafodieithol chi a rhowch nhw yn y sylwadau isod. Yna, enwebwch dri pherson arall i wneud yr un fath.
A chroeso i unrhyw un gyfrannu eu hoff eiriau tafodieithol yn y sylwadau isod.