
Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yng ngogledd Ceredigion.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen

Papur Sain Ceredigion
Cyhoeddiad ar ran Papur Sain Ceredigion
Penderfynwyd na fydd Papur Sain Ceredigion yn cael ei recordio na’i ddosbarthu am gyfnod amhenodol oherwydd pryderon yn sgil y Coronafeirws.
Mae mwyafrif ein gwirfoddolwyr yn y categori ‘risg’ ac yn cael siars i ynysu ein hunain.
Rydym yn byw yn y gobaith y bydd iechyd pawb yn cadw cystal ag y bo modd yn ystod y cyfnod anodd hwn, a hynny ledled y byd.
Bydd ein gwasanaeth yn ailgychwyn gynted ag y bo’n bosibl a phan fydd yn ddiogel inni wneud hynny.
Canslo sioe Aberystwyth
Datganiad ynglyn â Covid-19 Yn sgil y sefyllfa bresennol ni fydd CERED yn cynnal unrhyw weithgareddau am gyfnod…
Posted by Cered – Menter Iaith Ceredigion on Wednesday, 18 March 2020
— Cyngor Ceredigion (@CSCeredigion) March 18, 2020
Datganiad gan Siop y Pethe.

Côr agored ar Facebook yn codi calon
Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.
Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”
Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.
Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno, os hoffech chi ymuno yn yr hwyl cliciwch yma.
Darllenwch fwy am y stori ar golwg360
Busnesau lleol yn cydweithio ac addasu
DIWEDDARIAD CORONAFIRWS18 Mawrth 2020 Ni fydd y Pwyllgor Gwaith yn cael ei gynnal heno! (18/03)Yn dilyn y…
Posted by Cffi Ceredigion Ceredigion Yfc on Wednesday, 18 March 2020
Diweddariad gan @Cletwr
Mae'r caffi wedi cau heddiw, a bydd yn parhau ar gau am y tro.
Mae'r holl ddigwyddiadau a chyfarfodydd rheolaidd sy'n cael eu cynnal yn y caffi hefyd wedi'u canslo.
Mae'r siop yn parhau i fod yn AGORED ac nid oes gennym gynlluniau i'w chau.
Gweler isod pic.twitter.com/5E87RTww74
— Cletwr (@Cletwr) March 18, 2020