Busnesau lleol yn cydweithio ac addasu

Pryder rhai o fusnesau lleol Aber, a gobeithion rhai eraill o ganlyniad i’r coronafierws.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wrth gerdded o amgylch Aberystwyth mae hi’n amlwg yn dawelach, mae mwy o lefydd parcio ar gael, a llai o bobol yn mentro allan o’u cartrefi.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi rhoi’r gorau i addysg wyneb yn wyneb, ac mae nifer o fyfyrwyr eisoes wedi dechrau mynd adref.

Heb os prif flaenoriaeth pob busnes i golwg360 siarad â nhw oedd iechyd eu gweithwyr a’u cwsmeriaid, ond gyda disgwyl i lywodraeth San Steffan gyflwyno mesurau llymach dros y dyddiau nesaf, pa effaith fydd hyn yn ei chael ar siopau’r stryd fawr a busnesau lleol?

Cydweithio ac addasu 

Mae nifer o gwmnïau fel Cigydd Rob Rattray a Marchnad Bysgod Jonah’s yn y dref eisoes wedi dechrau cydweithio ac addasu, gan gynnig gwasanaeth dosbarthu ar y cyd i’w cwsmeriaid.

Daeth cadarnhad heddiw bod Caffi Cletwr yn Nhre’r Ddôl yn cau ei ddrysau am gyfnod amhenodol, er hyn gyda help gwirfoddolwyr mae’r caffi hefyd yn bwriadu cynnig gwasanaeth dosbarthu i’w gwsmeriaid.

Yr un yw’r stori ym mhob rhan o’r fro, ac ar ôl i Brif Weinidog y DU annog y cyhoedd i gadw draw o dafarndai mae dyfodol ansicr iawn yn wynebu nifer o dai tafarn yr ardal.

Dywedodd tafarn y Falcon yn Llanilar, a ail-agorodd ei ddrysau fis Ionawr, mai ei bwriad yw aros ar agor mor hir â phosib, a’u bod nhw hefyd yn cynnig cludo prydiau bwyd i’r bobol fwyaf bregus yn y pentref.

Ansicrwydd yn bryder i lawer o sefydliadau

Er bod llawer o fusnesau yn ceisio addasu, disgrifiodd rheolwr un o fwytai Aberystwyth y sefyllfa fel un amhosib, ac er bod pobol yn parhau i fynd i wagu silffoedd yr archfarchnadoedd mawr ar gyrion y dref mae hi eisoes yn amlwg bod pobol wedi dechrau cadw draw o dafarndai a bwytai.

Roedd yn teimlo bod dyfodol ansicr iawn yn wynebu nifer o fwytai’r ardal a’u gweithwyr.

Cyn y pandemig roedd nifer o siopau’r stryd fawr eisoes wedi gorfod cau eu drysau, ond wrth i ni wynebu cyfnod hir o aros adre mae pryder mawr y gall mwy a mwy o fusnesau bach fynd i’r wal.

Cefnogi’r busnesau bach

Y gri yn y dref a thu hwnt oedd annog pawb i gefnogi busnesau bach lleol, a pharhau i’w cefnogi nhw ar ôl y cyfnod anodd yma, er mwyn atgyfodi’r economi leol.

Bydd Bro360 yn rhoi sylw i un busnes bach lleol y dydd, sy’n gwneud pethe positif yn ein cymunedau.

Am hanes Caffi Gruff yn Nhal-ybont cliciwch ar y ddolen isod:

Busnes bro y dydd – Caffi Gruff, Tal-y-bont

Gohebydd Golwg360

Ymateb busnesau bach lleol i heriau’r coronafeirws