Busnes bro y dydd – Caffi Gruff, Tal-y-bont

Ymateb busnesau bach lleol i heriau’r coronafeirws

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn y cyfnod rhyfedd a diflas yma, mae Bro360 yn awyddus i roi sylw i rai o fusnesau bach sy’n gwneud pethe positif yn ein cymunedau.

Fe wnaeth Gruff Lewis, sy’n feiciwr proffesiynol, wireddu ei freuddwyd pan agorodd ei gaffi ei hun yn hen Gapel y Tabernacl Tal-y-bont, ond fel llawer o fusnesau lleol mae’r coronafeirws yn bryder mawr iddo.

Ydych chi’n fusnes lleol sy’n cynnig gwasanaeth arbennig yn sgil y Coronafeirws? Gadewch sylw isod ?