Canslo sioe Aberystwyth

Y dewis wedi ei wneud er mwyn “osgoi trychineb ariannol” debyg i 2012

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Sioe Aberystwyth yw’r digwyddiad diweddaraf i gael ei ganslo o ganlyniad i ledaeniad COVID-19.

Gan ddilyn canllawiau llywodraeth San Steffan penderfynodd pwyllgor y sioe nad oedd unrhyw ddewis ond canslo eleni – roedd y sioe i fod i gael ei gynnal ar Gaeau Gelli Angharad y tu allan i’r dref fis Mehefin.

Llun Sioe Aberystwyth 2019

“Osgoi trychineb ariannol”

Mewn datganiad dywedodd Sioe Aberystwyth mai iechyd y cyhoedd sydd wrth wraidd y penderfyniad.

Aiff y datganiad ymlaen i egluro fod y dewis hefyd wedi ei wneud er mwyn “osgoi trychineb ariannol” debyg i’r hyn wynebwyd ar ôl canslo Sioe Aberystwyth 2012 oherwydd llifogydd yng ngogledd Ceredigion.

Dywedodd Emlyn Jones, Cadeirydd Sioe Aberystwyth:

“Rydym yn sylweddoli y gall y newyddion yma fod yn siomedig, ond gallwn eich sicrhau nad penderfyniad hawdd mohono.”

“Rydym yn gobeithio y byddwch yn deall y sefyllfa eithriadol rydym ynddi. Diolch am eich cefnogaeth cyson a’ch dealltwriaeth, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi ar 12 Mehefin 2020, lle byddwn yn dathlu Sioe rhif 75.”