Padarn a Thalybont yn gyfartal

Gêm olaf y tymor ar gae Llety Gwyn

Mererid
gan Mererid
IMG_20240406_151834920
IMG_20240406_151832399
20240406_151714579_BURST000

Gyda’r tymor pêl-droed bron a gorffen, hon oedd gêm gartref olaf i Glwb Pêl-droed Penparcau.

Mewn gêm llawn bwrlwm, Padarn sgoriodd gyntaf ar ôl 62 munud gyda Dafs yn cicio pêl hir i’r gôl.

Ond doedd Talybont ddim yn hir cyn ymateb a gwthio’r bêl i’w pen nhw o’r cae. Dyfarnwyd cic o’r smotyn wedi 83 munud gyda Ian Allen Joseph yn dod a’r sgôr yn 1 yr un.

Roedd yn braf gweld nifer mawr o gefnogwyr, a hoffai’r tîm ddiolch i drigolion Llanbadarn am eu cefnogaeth yn ogystal a Chyngor Cymuned Llanbadarn am eu cefnogaeth ariannol.

Bydd diwrnod o hwyl yn cael ei gynnal ar y 29ain o Fehefin gyda gêm rhwng y tîm cyfredol a thîm arwyr o’r gorffennol. Cadwch y dyddiad yn rhydd.

Dweud eich dweud