Cefnogaeth drawsbleidiol i Fardd Tref Aberystwyth

Cyngor Tref Aberystwyth yn ymateb i olygyddol sarhaus gan y Cambrian News

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse

Mae’r papur wythnosol Saesneg lleol i Geredigion yn aml â’i lach ar Gyngor Tref Aberystwyth ac yn plethu beirniadaeth am y Cyngor Sir ymhlith y sylwadau. Yn ddi-os mae’r golygyddol diweddar yn crafu gwaelod y gasgen ac yn ymosod ar ein diwylliant fel cenedl.

Cafwyd ymateb trawsbleidiol cryf gan fwyafrif llethol cynghorwyr y dref yn y llythyr isod a yrrwyd at olygydd y Cambrian News:

Annwyl Olygydd,

Gyda chonsýrn darllenasom eich erthygl ddiweddar am ein Bardd Tref, Eurig Salisbury. Rydym yn barod i drafod unrhyw benderfyniadau fel cynrychiolwyr etholedig, ond nid yw unrhyw ymosodiad (aflonyddu) ar unigolion yn sgil penderfyniadau yn dderbyniol. Rydym un ac oll yn ymrafael gyda’r argyfwng costau byw, ond mae beio unigolion am benderfyniadau a wnawn ar y cyd yn ddi-fudd ac yn creu rhaniadau diangen. Mae Eurig Salisbury yn fardd uchel ei barch, mae wedi cyhoeddi ei waith a chafodd canmoliaeth uchel pan oedd yn Fardd Plant Cymru. Rydym yn ffyddiog y bydd yn dod â bri i’n tref yn ei swyddogaeth fel Bardd Tref.

Mae’r berthynas glòs rhwng bardd a’i gymuned yn ymestyn yn ôl i’r cofnodion cynharaf yn y Gymraeg, 1,500 o flynyddoedd yn ôl. Yn ei araith cyfeiriodd Eurig Salisbury at Guto’r Glyn, bardd a enwebwyd i rôl debyg 500 mlynedd yn ôl yng Nghroesoswallt. Sonnir am ‘wlad beirdd a chantorion o fri’ yn ein hanthem genedlaethol. Rhywbeth i bawb ei fwynhau yw barddoniaeth.

A ydych yn cofio sut y bu i bawb dynnu at ei gilydd dros gyfnod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron haf y llynedd? Daeth yr achlysur â’r Gymraeg, lliw, diwylliant a chelf i strydoedd Aberystwyth. Nid yn unig y bu i’r ŵyl fod yn hwb i’r economi leol ond fe ddaeth â hwyl i’n bywydau. Dyna yw grym barddoniaeth a chelf. Mae penodi bardd tref ar yr un llaw yn gam cyntaf yn ein cais i fod yn Ddinas Lenyddiaeth UNESCO yn y dyfodol agos. Ar y llaw arall, dynoda ein huchelgais o weld Aberystwyth yn ffynnu fel canolfan sy’n hybu diwylliant o bob math.

Mae barddoniaeth yn ein helpu i ddathlu’r pethau da, i gofio adegau trist ac i ddynodi achlysuron pwysig. Ein bwriad yw rhannu gwaith Eurig yn ei gyfanrwydd gyda chi, er mwyn galluogi gynulleidfa ehangach i’w fwynhau.

Hoffem fachu ar y cyfle hwn i atgoffa’r Cambrian News a’i ddarllenwyr, nad Cyngor Tref Aberystwyth, fel y crybwyllwch, sydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r codiadau mewn trethi. Ni sy’n gyfrifol am y praesept (precept), wrth gwrs, ond canran fechan ydy hyn o’r trethiant cyffredinol, ac fe’i defnyddir am resymau gwahanol i incwm Cyngor Ceredigion. Ein cyfrifoldeb yn rhannol yw hybu ein diwylliant lleol, rhywbeth sy’n hanfodol yn ein tyb ni, ac rydym bob amser yn edrych am ddulliau i hybu talent a busnesau lleol. Mae’r swm o £1,000 yn swm hollol resymol am y swydd. Gellid dadlau bod hyn yn werth da am arian i drigolion Aberystwyth, gan fod costau hybu’r celfyddydau yn gallu codi yn sydyn iawn. Mae ffaith eich bod yn dynodi ein bod yn gyfrifol am godi trethi, sydd y tu allan i’n cylch gorchwyl yn llwyr,  yn tystio un ai i gam-gynrychioli’r gwir yn fwriadol  ar eich rhan chi, er mwyn tynnu mwy o sylw, neu, ar y llaw arall, yn adlewyrchu eich camddealltwriaeth o gyfrifoldebau Cyngor Tref Aberystwyth. Os yr olaf ydyw, rydym bob amser yn barod i drafod ymhellach.

Hoffem nodi sut y defnyddir arian trethdalwyr i ariannu diwylliant a chelf yn lleol, e.e. Canolfan y Celfyddydau, y Coleg Celf, y Cyngor Llyfrau, y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell y Dref ac Amgueddfa Ceredigion, ac enwi dim ond rhai. Mae’r sefydliadau yma yn rhan annatod o wead y dref, a gobeithiwn eich bod chi fel papur a’ch darllenwyr yn cytuno eu bod  yn cyfrannu’n helaeth i’n tref: fel cyflogwyr, fel cyfranwyr o’r economi, fel canolfan dysg a diwylliant. Dyna yw grym diwylliant a chelf – y grym i greu a chydblethu cymuned.

Rydyn ni fel cynghorwyr tref yn falch o fod wedi creu swydd Bardd y Dref. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi Eurig a beirdd y dyfodol yn eu gwaith yn hybu Aberystwyth.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn cyd-ddathlu gyda ni’r cam hwn sy’n ddathliad o Aberystwyth fodern, ffyniannus, gyda’n gwreiddiau’n ddwfn yn y traddodiadau hynny sy’n ein clymu at ein gilydd.

Arwyddwyd:

Cynghorydd Democratiaid Rhyddfrydol:

Bryony Daly

Cynghorwyr Llafur:

Mathew Norman, Dylan Lewis-Rowlands

Cynghorwyr Plaid Cymru:

Kerry Ferguson (Maer), Maldwyn Pryse (Dirprwy Faer), Talat Chaudhri,  Brian Davies, Owain Hughes, Lucy Huws, Emlyn Jones, Sienna Lewis, Jeff Smith, Mari Turner, Alun Williams.

Llun gan: Nick Ferguson