Ail i Ddrudwns Aber

Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd 2023

Rhiannon Salisbury
gan Rhiannon Salisbury
120C3651-200E-4A42-9D74

Llwyfan Yr Ŵyl Gerdd Dant

Wedi rhai wythnosau o ymarfer, cafodd Drudwns Aber yr ail wobr yng nghystadleuaeth Grŵp Llefaru Uwchradd, Coleg neu Agored yr Ŵyl Gerdd Dant ddydd Sadwrn.

Roedd dewis o ddau ddarn i’w llefaru i’r partïon, sef Rhewi gan Catrin Dafydd a Tryweryn gan Guto Dafydd. Anni Llŷn oedd y beirniad eleni.

Cerdd Guto oedd dewis Drudwns Aber. Mae gofynion y gystadleuaeth hon yn golygu bod angen llefaru i gyfeiliant. Diolch yn fawr iawn i Heledd Ifan Davies am ei datganiad celfydd o ‘Hiraeth am Feirion’ ar y delyn, a oedd yn ychwanegiad hyfryd i gyfleu naws y darn.

Cynhaliwyd yr Ŵyl ar gampws Coleg Caerdydd a’r Fro. Diolch i’r holl drefnwyr am y croeso.

Wedi rhai misoedd go brysur i’r Drudwns yn ddiweddar –  yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cyfarch y Prif Lenor Meleri Wyn James ac yn dathlu chwarter canrif o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru, hoe fach amdani tan y flwyddyn newydd nawr.

Cofiwch ddilyn hynt a helynt Drudwns Aber ar ein cyfrif Instagram @Drudwns. Cysylltwch ar ein cyfrif Insta os oes diddordeb gennych i ymuno yn y llefaru – mae croeso mawr i aelodau newydd bob amser.