Canmlwyddiant Cofeb Rhyfel Aberystwyth

Mae eleni yn nodi can mlynedd ers dadorchuddio’r Gofeb Rhyfel hardd gan yr Athro Mario Rutelli.

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
CofebCyngor Tref Aberystwyth

Dathlu canmlwyddiant y gofeb

Canmlwyddiant y Gofeb Rhyfel

Mae eleni yn nodi can mlynedd ers dadorchuddio Cofeb Rhyfel hardd Aberystwyth a luniwyd gan yr Athro Mario Rutelli, cerflunydd Eidalaidd o fri, sydd yn sefyll ar dir Castell Aberystwyth yn edrych allan i’r môr.

Heddiw, gwelir y gofeb yn arwydd o heddwch, cytgord a chymod yn ein tref groesawgar. Mae’r ffigwr adeiniog ar ben y golofn yn cynrychioli Buddugoliaeth yn disgyn ar y ddaear gyda neges o heddwch. Wrth droed y golofn, mae menyw noeth yn codi allan o ddrysni yn cynrychioli Dynoliaeth yn codi o erchyllterau rhyfel.

Mewn rhyfel, mae dioddefaint a cholled pawb yn gyfartal ac mae’r seremoni fer a gynhelir brynhawn y 14eg o Fedi wedi’i chynllunio i gydnabod ein gobaith am heddwch yn ogysgal ag anrhydeddu achlysur canmlwyddiant y gofeb.

Hoffai Cyngor Tref Aberystwyth eich gwahodd yn gynnes i fynychu digwyddiad y canmlwyddiant wrth y Gofeb Rhyfel am 3 o’r gloch y prynhawn, dydd Iau 14eg o Fedi 2023, lle bydd y Maer, y Cyng. Kerry Ferguson, yn cyflwyno hanes byr am y gofeb, gyda darlleniadau a chaneuon gan berfformwyr lleol i ddilyn.