Brian May ym Mhrifysgol Aberystwyth

Cerddor o’r band Queen yn siarad am yr ymdrechion i ddileu twbercwlosis

Mererid
gan Mererid
DSC03892_2

Yr Athro Glyn Hewinson (chwith) a Syr Brian May (dde)

Dydd Mercher, 6ed o Fedi 2023, ymwelodd y cerddor byd-enwog Syr Brian May a Phrifysgol Aberystwyth. Amcan yr ymweliad oedd rhannu’r profiad o ymdrechion i ddileu twbercwlosis ar fferm y mae’n ei noddi.

Mae’r fferm laeth yn ne Dyfnaint, Gatcome Farm, wedi bod yn profi strategaethau i frwydro yn erbyn y clefyd, diolch i gefnogaeth ariannol Syr Brian May, Mae’r fferm, mewn cydweithrediad gyda’r gitarydd a’r ymgyrchydd yn erbyn difa, wedi treialu cyfres o brofion amgen ar gyfer canfod TB, yn ogystal â gwella mesurau bioddiogelwch a rheolaeth slyri.

Wrth siarad ar ôl annerch cynulleidfa o filfeddygon, ffermwyr ac academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth, dywedodd Syr Brian May:

“Dechreuais ymchwilio i TB mewn gwartheg ddeng mlynedd yn ôl, pan sefydlais ymddiriedolaeth Save-Me; gyda’n gilydd fe wnaethom gychwyn ar genhadaeth i ddarganfod y gwir am wartheg a moch daear a phla’r TB mewn gwartheg, lle cyhuddwyd y moch daear o fod yn ‘gronfa fywyd gwyllt’ o afiechyd. Ar ôl cyflwyniad gan yr NFU, aethom ati i weithio ar y cyd, i frwydro yn erbyn y clefyd yn uniongyrchol, ar fferm laeth Gatcombe yn Ne Dyfnaint.

“Rwy’n gobeithio y bydd fy ngwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwell dealltwriaeth rhwng y rhanddeiliaid amrywiol yn y frwydr yn erbyn TB Gwartheg, ac yn y pen draw yn arwain at fywyd gwell i ffermwyr, gwartheg a moch daear yn y DU. Mae’n amlwg bod Prifysgol Aberystwyth yn gwneud gwaith ymchwil hynod o bwysig yn y maes hwn, ac mae ei gwaith yn haeddu cefnogaeth gan bawb sy’n gysylltiedig fel y gall yr ymchwil wyddonol ar y clefyd hwn fynd yn ei blaen.”

Cynhaliwyd y ddarlith gan Ganolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Pennaeth Canolfan Ragoriaeth Twbercwlosis Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, Yr Athro Glyn Hewinson:

“Mae digwyddiadau fel y rhain yn bwysig i hybu deialog am y clefyd dinistriol hwn. Yma yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Aberystwyth, rydym yn ymgysylltu â’r holl randdeiliaid yn ein hymdrech ar y cyd i ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o frwydro yn erbyn twbercwlosis mewn gwartheg. Ein nod yw darparu sylfaen dystiolaeth wyddonol gref i gefnogi’r gwaith o ddileu’r clefyd ac i dyfu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.”