Bois y Rhedyn yn diddanu Merched y Wawr

Dechrau tymor llwyddiannus iawn i Ferched y Wawr Aberystwyth

gan Sue jones davies

Nos Lun, Medi 20fed, fe wahoddodd cangen Aberystwyth o Ferched y Wawr, ganghennau lleol eraill i noson o adloniant yng Nghanolfan Arad Goch. Cafwyd noson wych o ganu a chomedi gan Fois Y Rhedyn.

Cafodd pawb amser hwylus yn enwedig y Llywydd Megan Jones Roberts a ymunodd yn un o’r sgetshis! Roedd yn dda gweld aelodau newydd yn ymuno, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno a changen Aberystwyth o Ferched y Wawr – cysylltwch â Megan.

Daeth y noson i ben gyda nodwedd draddodiadol iawn Merched y Wawr – te a chacennau.