Beth sy’n digwydd ar Bendinas?

Gwyl Archaeoleg Pendinas dydd Sadwrn

Mererid
gan Mererid
IMG_20230909_171223452_HDR
IMG_20230909_170610874
IMG_20230909_171150826_HDR

Aberystwyth y gefnlen i’r gwaith cloddio

Fe fydd trigolion Aberystwyth wedi sylwi ar babell wen yn agos at gopa Pendinas, ac i’r rhai ohonoch sydd methu dringo – dyma gipolwg o’r gwaith cloddio hyd yma.

Mae’r gwaith yma yn rhan o brosiect Archaeoleg Gymunedol Bryngaer Pendinas, a lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Mae’r prosiect yma yn bartneriaeth dwy flynedd rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed, sydd wedi ei hariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Cadw. Dros y chwe mis diwethaf mae’r prosiect wedi cynnal ei gloddiad archaeolegol cyntaf, wedi’i staffio gan 50 o wirfoddolwyr lleol, ac rydym wedi gweithio gyda mwy na 100 o blant o’r ysgol gynradd leol, ac wedi arwain nifer o deithiau cerdded ar gyfer grwpiau cymunedol lleol.

Dathlu

Ar ddydd Sadwrn 16 Medi, o 10:00-16:00, mae gwahoddiad i bawb ymuno am ddim yng Ngŵyl Archaeoleg Pendinas.

Gŵyl hwyl a sbri i bob oed. Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal trwy gydol y dydd yn yr Hwb ym Mhenparcau. Bydd gweithgareddau thema Geltaidd i’r teulu cyfan, gan gynnwys taflu slingshots, peintio wynebau a gwneud potiau, yn ogystal â stondinau gwybodaeth treftadaeth. Cewch fapio eich atgofion bywyd gwyllt o Bendinas gyda’r arbenigwr bywyd gwyllt, Chloe Griffiths. Mae teithiau tywys o amgylch y fryngaer yn y bore a chyfle i gwrdd â siarad â’r gwirfoddolwyr sy’n cloddio tŷ crwn o’r Oes Haearn o fewn y fryngaer.

Mae’r gweithgareddau yn cynnwys:

  • Pentrefwyr Oes yr Haearn o Gastell Henllys fydd yn cymryd drosodd yr Hwb!
  • Gweithgareddau Celtaidd i’r teulu i gyd yn yr Hwb ac ar gopa Pendinas!
  • Stondinau gwybodaeth treftadaeth yn yr Hwb
  • Teithiau Tywys o amgylch Pendinas a siawns i drafod y cloddiad gyda’r gwirfoddolwyr
  • Sgyrsiau archaeoleg gan arbenigwyr:
    • 12:30: Sesiwn cwestiwn ac ateb ar Ddatgelu Metel ac Archaeoleg gyda David Howell a Christopher Catling
    • 14:00: ‘Recent and current archaeological excavations at Pendinas’ gan Ken Murphy
    • 14:30: ‘From the Celts to the Romans of Pendinas’ gan Dr Toby Driver
  • 15:00: Te a chacennau i ddathlu (am ddim)

Mi fydd parcio am ddim ar gael ym maes parcio Ysgol Llwyn-yr-Eos. Y cyfeirnod ‘What3Words’ yw drainage.waxes.latitudes.

Dewch a phicnic a mwynhewch y dydd!

Mae’r digwyddiad yma yn rhad ac am ddim, yn agored i bawb, a does dim angen archebu tocyn ymlaen llaw.

Os oes gennych unrhyw gwestiynnau, ebostiwch: beca.davies@cbhc.gov.uk nicola.roberts@cbhc.gov.uk.