Ardrawiad

Gwaith celf yn herio ein canfyddiadau

gan Sue jones davies

Agorodd arddangosfa, “Ardrawiad ” gan Angharad Pearce Jones ar Ddydd Sadwrn y 22 o Orffennaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Dyma ei sioe unigol fwyaf hyd hyn ac mae’n ail greu gosodiad a adeiladwyd yn wreiddiol yn ei chartref ei hun yn ystod y cyfnod clo.

Mae Angharad wedi gweithio ym myd dur ers dros 30 mlynedd ac nid yw ei dewis ddeunydd byth yn methu â herio, cyffroi ac aflonyddu.

Nid yw’r gwaith hwn yn eithriad.