Anrhydeddu gwir arwyr pêl-droed

Na…nid Gareth Bale ond….

Mererid
gan Mererid
IMG_20230929_201716023_HDR

Rolant Ellis

IMG_20230929_201716023_HDR

Rolant Ellis

IMG_20230929_195406082

Tim Talybont

IMG_20230929_195440540
IMG_20230929_200232381

Nos Wener, 29 o Fedi 2023, cafwyd noson arbennig yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth i urddo arwyr pêl-droed lleol.

Bryn Smith a Rolant Ellis oedd y ddau yn derbyn Gwobr Gwasanaeth Hir 40 mlynedd Cynghrair Pêl-droed Cymru (FAW) y tro hwn.

IMG_20230929_201740401
Bryn Smith

Wedi cyflwyniad gan Wyn Lewis (Tîm Pêl-droed Bow Street, Cadeirydd Cynghrair Cambrian Tyres a chynrychiolydd Canolbarth Cymru ar y Gynghrair Genedlaethol), cafwyd esboniad gan David Hinton Jones (hefyd o Gynghrair Canolbarth Cymru) gefndir y wobr a gafodd ei sefydlu yn Awst 1979. Fe’i cynlluniwyd i wobrwyo’r unigolion hynny oedd wedi gwasanaethu clybiau, cynghreiriau neu Gymdeithasau Ardal am ddeugain mlynedd heb gael eu cydnabod ymhellach. Adroddodd hefyd ymddiheuriad gan Wil Lloyd-Williams (Machynlleth) oedd methu bod yn bresennol, oedd wedi darparu rhai storïau doniol am ei ymuno gyda’r ddau. Talodd ddirwy’r gynghrair o £30 i Bryn mewn ceiniogau, gan ddarparu adroddiad digon bywiog i Rolant am ansawdd y dyfarnwr.

Daeth Dai Alun Jones (Is Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru), un arall sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig, i roi cyflwyniad yn gyntaf i Bryn Smith.

IMG_20230929_200232381

I’r rhai ohonoch sydd ddim yn nabod Bryn, er ei fod yn byw yn Bow Street, mae’r trysorydd Clwb Pêl-droed Talybont ers i’r tîm ailddechrau yn 1973, ac yn rhan o ffurfio’r gynghrair yn 1980, yn drysorydd Cynghrair Cambrian Tyres yn ogystal â thrysorydd cwpan er cof am Dai Dynamo. Talodd Bryn deyrnged i Dai Dynamo, a nifer o’r rhai a ddylanwadodd arno. Roedd yn ysbrydoliaeth i weld cymaint o dîm presennol Talybont yn bresennol, yn ogystal â rhai o’r cyn-chwaraewyr. Pawb a pharch mawr i Bryn, sydd yn parhau fel trysorydd y Gynghrair.

Roedd yr ail gyflwyniad i Rolant Ellis, oedd a siwrnai debyg i Bryn, ac yn yr un cyfarfod yn 1980. Fel cyn-chwaraewr – talodd deyrnged i Ritche Jenkins a’i perswadiodd i gymryd rhan, er nad oedd yn chwarelwr da. Nododd gymaint o fraint oedd cael bod yn rhan o’r gêm orau yn y byd – pêl-droed, gan obeithio y bydd aelodau nesaf y Gynghrair i gymryd ar awenau i sicrhau fod pawb yn gallu parhau i chwarae pêl-droed.

Mewn araith hwyliog gyda llawer o chwerthin, adroddodd Rolant am ei gyfnod fel Ysgrifennydd y Gynghrair, gan dalu teyrnged i rai o’r arwyr eraill sydd wedi ein gadael – yn eu plith Kevin Jenkins (Bones) o Dîm pêl-droed Penrhyn-coch.

Mae angen mwy o wirfoddolwyr ar bêl-droed lleol – felly os ydych chi yn gallu gwirfoddoli -byddai’r timau lleol wrth eu bodd.

Roedd yn noson arbennig a diolch i Glwb Pêl-droed Aberystwyth am ddarparu lluniaeth.

IMG_20230929_195406082
Tim Talybont