Cyngerdd Philomusica Aberystwyth

Eleni mae ‘r gerddorfa yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 mlwydd oed.

Maldwyn Pryse
gan Maldwyn Pryse
Philomusica-Aberystwyth

Iwan Teifion Davies, cyfarwyddwr artistig Philomusica Aberystwyth, ac aelodau’r gerddorfa yn derbyn cymeradwyaeth y gynulleidfa,

Daeth tyrfa luosog a gwerthfawrogol i’r Neuadd Fawr, Prifysgol Aberystwyth, ar nos Sadwrn 3ydd Rhagfyr i fwynhau gwledd o gerddoriaeth glasurol yng nghyngerdd Philomusica Aberystwyth o dan arweiniad Iwan Teifion Davies.  Gweithiau gan Johann Strauss II, Bela Batok ac Alun Hoddinott oedd yr arlwy yn yr hanner cyntaf ac yna yn yr ail hanner gwaith gan Tchaikovsky ac Hindemith.

Ffurfiwyd y gerddorfa yn wreiddiol fel cerddorfa ‘tref’, ond ers 90au y ganrif ddiwethaf daeth yn fodd i bontio a hybu uno’r dref â’r Brifysgol.  Mae’r gerddorfa yn mwynhau cefnogaeth sylweddol gan Brifysgol Aberystwyth ac mae’n fagwrfa arbennig ar gyfer cerddorion ifanc lleol a myfyrwyr o’r Brifysgol.  Ar hyn o bryd mae’r gerddorfa yn cynnal dwy brif gyngerdd y flwyddyn, ym mis Mawrth a Rhagfyr.

Mae’r gerddorfa yn chwarae gweithiau mawr symffonig ac yn hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig gan gyfansoddwyr fel Morfudd Owen ac Alun Hoddinott.  Eleni, am y tro cyntaf erioed, perfformiodd y gerddorfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.  Cafodd gwaith comisiwn newydd gan Gareth Glyn ei gyfansoddi’n arbennig ar gyfer yr achlysur.  Mae ‘Ceffyl y Sêr’ yn stori gerddorol hyfryd i blant, gyda geiriau gan Mererid Hopwood.

Cofiwch ddod i fwynhau’r gyngerdd nesaf ym mis Mawrth.  Gall Philomusica gynnig lle i chwaraewyr mewn rhai adrannau o’r gerddorfa.  Os oes gennych ddiddordeb ymuno, cysylltwch â: philomusica@protonmail.com

Yn y cyfamser, cofiwch am gyngerdd Cymdeithas Gorawl Aberystwyth gyda Sinfonia Cambrensis, tan arweiniad David Russell Hulme nos Sadwrn 10fed Rhagfyr 2022 am 7.30  Cyfle i fwynhau Khrystyna Makar (soprano), Sioned Gwen Davies (mezzo soprano), Rhodri Prys Jones (tenor) a Ryan Hugh Ross (bariton).