Dwy o Fro Aber ar restr gwobrau Tir na n-Og

Cyhoeddi rhestr fer y llyfrau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc

Mererid
gan Mererid
Valeriane

Valeriane

Mae llyfr gan Caryl Lewis ac a ddarluniwyd gan Valériane Leblond wedi cyrraedd rhestr fer gwobrau llyfrau Tir na n-Og 2024, ill dwy yn byw yng Ngogledd Ceredigion. Y llyfr a enwebwyd oedd Mari a Mrs Cloch a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023. Nid dyma’r tro cyntaf i’r ddwy fod ar y rhestr fer, gyda Valériane wedi ennill yn 2016 am Pedair Cainc y Mabinogi ac yn 2019 am y llyfr Cymru ar y Map, a Caryl wedi ennill yn 2004 am Iawn Boi? ac yn 2015 am y llyfr Straeon Gorau’r Byd.

Mae hefyd yn ddathliad i’r gweisg o Ogledd Ceredigion hefyd – Y Lolfa o Dalybont ac Atebol o Landre, gyda Chadeirydd Cyhoeddiadau Barddas, Gwenallt Llwyd Owen hefyd yn byw yn Nhalybont.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru a ddyfarnir gan Gyngor Llyfrau Cymru yn flynyddol.

Mae gan y wobr Gymraeg ddau gategori – ar gyfer oedran cynradd ac oedran uwchradd.

Dyma’r rhestr fer ar gyfer yr oedran cynradd:-

  • Jac a’r Angel gan Daf James, darluniwyd gan Bethan Mai (Y Lolfa)
  • Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis, darluniwyd gan Valériane Leblond (Y Lolfa)
  • Wyneb yn Wyneb gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
  • Y Gragen gan Casia Wiliam, darluniwyd gan Naomi Bennet (Cyhoeddiadau Barddas)

A’r rhestr fer o lyfrau ar gyfer yr oedran uwchradd:-

  • Astronot yn yr Atig gan Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)
  • Fi ydy Fi gan Sian Eirian Lewis, darluniwyd gan Celyn Hunt (Y Lolfa)
  • Sêr y Nos yn Gwenu gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Y beirniaid ar y panel ar gyfer y llyfrau Cymraeg eleni oedd Sara Yassine, Siôn Lloyd Edwards a Rhys Dilwyn Jenkins, dan gadeiryddiaeth Sioned Dafydd.

Dywedodd Ms Dafydd:

Roedd cytundeb ymysg y panel fod pawb wedi cael blas ar y darllen a bod plant Cymru yn ffodus iawn o gael y fath ystod o lyfrau safonol i’w mwynhau a’u trysori.

Diolch i’r holl weisg, yr awduron a’r dylunwyr am oriau o bleser ac ymgolli!

Credwn bod llyfrau ymysg y casgliad eleni a fydd yn ffefrynnau gan blant Cymru a bydd ambell lyfr yn sicr o gael ei fyseddu a’i ddarllen yn dawel ac ar goedd drosodd a throsodd am flynyddoedd i ddod.”

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 29 Mai ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Meifod.