Galwad ar ferched i sefyll yn etholiadau 2022

Noson amhleidiol i annog mwy o ferched i ymwneud mewn gwleidyddiaeth

Mererid
gan Mererid

O’r 42 cynghorydd sir yng Ngheredigion, dim ond 5 sydd yn ferched, y trydydd isaf yng Nghymru. Dim ond Merthyr ac Ynys Môn sydd â chanrannau is, gydag Abertawe’r gorau, ond eto, a 39% o ferched yn gynghorwyr.

Mae noson wedi ei threfnu ar y 13ain o Orffennaf yn gwahodd unrhyw un i ymuno i wrando ar brofiad gwleidyddion nad ydym falle wedi clywed am eu profiad blaenorol. Y bwriad yw annog cymaint o ferched i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Cyngor Sir, Cymuned a Thref ym Mai 2022.

Pwy yw’r siaradwyr?

Bu Lisa Francis yn Gynghorydd Tref Aberystwyth ac yn Aelod Cynulliad Rhanbarthol rhwng 2003 a 2007 dros y ceidwadwyr. Mae Lisa wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau’r henoed, yn ogystal ag Aelod Cynulliad Benywaidd y flwyddyn yn 2007.

Lisa yn y lockdown

Etholwyd Elaine Evans yn 2017 yn Gynghorydd Sir dros ward Rhydyfuwch Aberteifi, ac mae’n parhau yn gynghorydd tref Aberteifi. Mae’n aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn un o’r 5 merch ar y Cyngor Sir yn cadw cwmni i Ellen ap Gwynn, Catrin Miles, Catherine Hughes ac Elizabeth Evans. Beth mae Elaine yn teimlo mae cael llais benywaidd yn effeithio ar y Cyngor?

Elaine yn yr haul

Busnesau’n beirniadu’r penderfyniad i godi tâl am barcio yng Ngheredigion

Gohebydd Golwg360

“Ni’n byw drwy’r cyfnod mwyaf anodd i ni gyd, a dyw hyn ddim yn helpu’r sefyllfa”

Mae nifer ohonoch yn gyfarwydd â Lona Mason, a ysgrifennodd erthygl am ei thaith gerdded ar BroAber360, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond mae hefyd yn Gynghorydd Cymuned dros ward Ysgubor-y-coed, ardal Ffwrnais, Eglwysbach a Glandyfi. Sut mae Lona yn delio gyda swydd llawn amser, gofynion teuluol a bod yn gynghorydd cymuned?

ceffyl

Am dro o gwmpas Ysgubor-y-coed

Lona Mason

Cylchdaith i’r teulu yn ardal Ffwrnais (tua 2 awr, mwy os ewch â phicnic)

Mae Sue Jones Davies yn adnabyddus i nifer ohonoch, ond mae wedi bod yn Gyngorydd Tref Aberystwyth dros ward Bronglais ers 2008.  Roedd yn Faer Cyngor Tref Aberystwyth yn 2008-2009. Ydi Sue wedi gweld newid yn y ffordd mae gwleidyddiaeth wedi newid, ac a ydi yn teimlo ei fod yn wahanol i ferch mewn gwleidyddiaeth.

Mae’r noson yn cael ei chadeirio gan Sara Gibson, newyddiadurwr profiadol o Benrhyncoch.

Elin Jones AC a Sara Gibson yn y te pnawn

Darperir cyfieithu ac mae croeso i unrhyw un ymuno drwy ddilyn y linc yma

https://zoom.us/j/98631287077?pwd=RDJ6TEFnUjhOdFBmTVpNM1hubDRUZz09

Cyfeirnod: 986 3128 7077

Cod mynediad: 717348