Busnesau’n beirniadu’r penderfyniad i godi tâl am barcio yng Ngheredigion

“Ni’n byw drwy’r cyfnod mwyaf anodd i ni gyd, a dyw hyn ddim yn helpu’r sefyllfa”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae dros 1,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Sir Ceredigion i godi tâl am barcio yn rhai o feysydd parcio’r sir.

Denodd y ddeiseb dros 400 o lofnodion mewn llai na 24 awr, mewn ymateb gan fusnesau a thrigolion yr ardal.

Daw’r drafodaeth yn dilyn cyhoeddiad y cyngor bod taliadau digyswllt am gychwyn mewn 13 o feysydd parcio yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbed.

Mae’r ddeiseb yn nodi bod y cynllun parcio am ddim, sydd wedi bod mewn grym ers cychwyn y cyfnod clo cenedlaethol ym mis Mawrth, wedi bod yn “rhaff achub” i nifer o fusnesau dros y cyfnod.

Mae’r cynllun newydd yn cychwyn heddiw (Rhagfyr 1).

“Newyddion siomedig iawn”

“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn,” meddai Berith Lochery, perchennog siop Broc-Môr yn Aberystwyth.

“Yn amlwg, roedd y cynllun parcio am ddim yn help mawr i lawer o bobol dros y misoedd diwethaf. Er dweud hynny, roedd parcio yn parhau i fod yn broblem fawr yn Aberystwyth, fel llawer o drefi eraill.

“Ond mi oeddwn i’n gobeithio y bydden nhw’n parhau hefo’r parcio am ddim dros gyfnod y Nadolig o leiaf.

“Dwi’n meddwl fod o’n benderfyniad rhyfedd iawn i ailgychwyn hynny ar y 1af o Ragfyr.”

“Dwi’n teimlo bod yr amseru cyn y Nadolig yn warthus”

“Mae’r amseru yn ofnadwy,” meddai Angharad Morgan, perchennog Siop Inc yn Aberystwyth.

“Ni’n dod i adeg brysura’r flwyddyn ac mae hi wedi bod yn flwyddyn mor heriol i bawb.

“Dydi’r parcio ddim yn grêt yn y dref ar ei orau ac yn amlwg, dyw codi tâl adeg hyn o’r flwyddyn ddim yn mynd i fod yn denu pobol i’r dref.

“Dwi’n teimlo bod yr amseru cyn y Nadolig yn warthus. Ni’n byw drwy’r cyfnod fwyaf anodd i ni gyd a dyw hyn ddim yn helpu’r sefyllfa,” meddai.

“Rwy’n poeni faint o fusnesau’r dref fydd yn goroesi”

“Rwy’n hynod o siomedig bod y taliadau’n dod i rym yn Aberteifi, yn enwedig gan ein bod yn agosáu at y Nadolig,” meddai Elaine Evans, cynghorydd yn Aberteifi.

“Eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn arall, mae hi wedi bod yn amser anodd dros ben i fasnachwyr a thrigolion Aberteifi. Mae cymaint ohonom yn poeni am yr effaith niweidiol y bydd taliadau parcio yn ei chael ar dref sydd eisoes â pharth diogel mewn grym.

“Mae angen i ni gadw parcio am ddim trwy gydol y pandemig. Os na wnawn ni, rwy’n poeni faint o fusnesau’r dref fydd yn goroesi.”

“Penderfyniad gwael ar gyfer ein cymunedau”

“Mae cymaint o fusnesau lleol yn ei chael hi’n anodd i oroesi yn ystod y pandemig ac maen nhw angen pob help sydd ar gael,” meddai Cadan ap Tomos, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Ceredigion yn Senedd Cymru.

“Dyna sy’n gwneud y penderfyniad hwn gan Gyngor Plaid Cymru / Annibynnol mor ddryslyd.

“Rwy’n arbennig o bryderus y bydd llawer iawn o bobol nad oes ganddyn nhw gerdyn banc i dalu yn cael eu hatal rhag ymweld â chanol ein trefi.

“Mae’r ffaith fod cannoedd o bobol wedi cefnogi ein hymgyrch mewn llai na diwrnod yn dangos bod hyn yn benderfyniad gwael ar gyfer ein cymunedau.”

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.