Am dro o gwmpas Ysgubor-y-coed

Cylchdaith i’r teulu yn ardal Ffwrnais (tua 2 awr, mwy os ewch â phicnic)

Lona Mason
gan Lona Mason
ceffyl

Diolch i Steff Rees, arweinydd amyneddgar Iwcadwli am fy enwebu i ymateb i’r her “Mynd am Dro”. Rwyf wrth fy modd yn mynd am dro, boed hi’n wâc fach leol o gwmpas fy ardal, neu fynydd mawr Eryri. Mae’n llesol i’r corff a’r meddwl.

Mae’r daith fach yma’n lleol i mi yn ardal Ffwrnais: mae hi’n addas i deulu gyda phlant hŷn, ac mae hi’n gylchdaith efo golygfeydd godidog unrhyw adeg o’r flwyddyn. Rwy’n hoff iawn o’i gwneud cyn machlud haul, gan gyrraedd y topiau i weld yr haul yn diflannu dros orwel Bae Ceredigion neu’r tu ôl i fynyddoedd Meirionnydd.

Gallwch barcio eich car yn maes parcio’r Ffwrnais, ac wedi ichi ymweld ag adeilad Ffwrnais a gweld y rhaeadr, cerddwch ymlaen yn ofalus iawn iawn ar hyd y ffordd fawr tua chyfeiriad Machynlleth, gan droi i’r dde gyferbyn â Chapel y Graig. Ewch i fyny’r lôn fechan am tua chwarter milltir ac yna ewch dros y grid gwartheg. Yno, fe welwch arwydd a llwybr i’r chwith. Dilynwch y llwybr yma ar hyd y wal garreg am tuag ugain munud, ac ar ben y llwybr bydd giât.

Trowch i’r dde gan ddilyn y ffordd darmac am tua hanner milltir nes dowch at giât gerdded arall ar y dde, gyferbyn â fferm ar y chwith. Yma, rydych chi’n dechrau dringo i fyny llethr gogleddol Foel Fawr, sy’n rhan o lwybr arfordir Cymru. Mae hi’n eithaf serth ond yn werth yr ymdrech – o hyn allan fe gewch olygfeydd gwych o Fae Ceredigion, Aberdyfi a’r mynyddoedd am weddill y daith. Os byddwch yn lwcus, fe welwch walch y môr yn hedfan o gwmpas, neu gipolwg o’r ceffylau sy’n pori ar y Foel (maen nhw’n ddigynnwrf fel arfer, cyn belled nad ydych yn tarfu arnynt).

Dilynwch y llwybr yr holl ffordd ar draws y mynydd nes dowch at ffordd darmac. Yma, trowch i’r dde lle gwelwch chi Aberdyfi o’ch blaen. Mae’r ffordd yn parhau i lawr y mynydd, ac yn mynd sig-sag dair gwaith nes byddwch yn ôl wrth y grid gwartheg lle dechreuodd y daith.

Er bod mis “Mynd am Dro” wedi dod i ben, rwy’n meddwl ei bod hi’n werth dal ymlaen efo’r her. A hoffwn enwebu Iwan Bryn James nesa: mae Iwan yn gerddwr o fri, sydd wedi gwneud rhan healeth o lwybr arfordir Cymru bellach.