O’r 42 cynghorydd sir yng Ngheredigion, dim ond 5 sydd yn ferched, y trydydd isaf yng Nghymru. Dim ond Merthyr ac Ynys Môn sydd â chanrannau is, gydag Abertawe’r gorau, ond eto, a 39% o ferched yn gynghorwyr.
Mae noson wedi ei threfnu ar y 13ain o Orffennaf yn gwahodd unrhyw un i ymuno i wrando ar brofiad gwleidyddion nad ydym falle wedi clywed am eu profiad blaenorol. Y bwriad yw annog cymaint o ferched i sefyll fel ymgeiswyr yn etholiad Cyngor Sir, Cymuned a Thref ym Mai 2022.
Pwy yw’r siaradwyr?
Bu Lisa Francis yn Gynghorydd Tref Aberystwyth ac yn Aelod Cynulliad Rhanbarthol rhwng 2003 a 2007 dros y ceidwadwyr. Mae Lisa wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau’r henoed, yn ogystal ag Aelod Cynulliad Benywaidd y flwyddyn yn 2007.
Etholwyd Elaine Evans yn 2017 yn Gynghorydd Sir dros ward Rhydyfuwch Aberteifi, ac mae’n parhau yn gynghorydd tref Aberteifi. Mae’n aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn un o’r 5 merch ar y Cyngor Sir yn cadw cwmni i Ellen ap Gwynn, Catrin Miles, Catherine Hughes ac Elizabeth Evans. Beth mae Elaine yn teimlo mae cael llais benywaidd yn effeithio ar y Cyngor?
Busnesau’n beirniadu’r penderfyniad i godi tâl am barcio yng Ngheredigion
Mae nifer ohonoch yn gyfarwydd â Lona Mason, a ysgrifennodd erthygl am ei thaith gerdded ar BroAber360, ac mae hefyd yn adnabyddus am ei gwaith Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ond mae hefyd yn Gynghorydd Cymuned dros ward Ysgubor-y-coed, ardal Ffwrnais, Eglwysbach a Glandyfi. Sut mae Lona yn delio gyda swydd llawn amser, gofynion teuluol a bod yn gynghorydd cymuned?
Am dro o gwmpas Ysgubor-y-coed
Mae Sue Jones Davies yn adnabyddus i nifer ohonoch, ond mae wedi bod yn Gyngorydd Tref Aberystwyth dros ward Bronglais ers 2008. Roedd yn Faer Cyngor Tref Aberystwyth yn 2008-2009. Ydi Sue wedi gweld newid yn y ffordd mae gwleidyddiaeth wedi newid, ac a ydi yn teimlo ei fod yn wahanol i ferch mewn gwleidyddiaeth.
Mae’r noson yn cael ei chadeirio gan Sara Gibson, newyddiadurwr profiadol o Benrhyncoch.
Darperir cyfieithu ac mae croeso i unrhyw un ymuno drwy ddilyn y linc yma
https://zoom.us/j/98631287077?pwd=RDJ6TEFnUjhOdFBmTVpNM1hubDRUZz09
Cyfeirnod: 986 3128 7077
Cod mynediad: 717348