Ydych chi’n clywed Radio Cymru yn Aber heddi?

Nam ar drosglwyddydd Blaenplwyf yn achosi problemau i wrandawyr Radio Cymru

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Profodd nifer o bobl drafferthion wrth geisio gwrando ar Radio Cymru fore Mercher (Ionawr 8).

Sylweddolodd Amelia sydd yn byw yn Aberystwyth fod hi wedi colli signal tua 10:30yb a rhannu ei phrofiad ar wefan gymdeithasol Twitter.

 

Troi at BBC sounds

Bu rhaid i Gwyneth Owen o Bwllheli droi at  ap BBC Sounds er mwyn gwrando ar yr orsaf radio yn hytrach na defnyddio ei set radio draddodiadol.

 

Nam ar y trosglwyddydd

Yn ôl llefarydd ar ran Radio Cymru “mae nam wedi bod ar drosglwyddydd Blaenplwyf ers Rhagfyr 26”, ac mae gwaith yn cael ei wneud ar y trosglwyddydd heddiw er mwyn datrys y broblem.

Mae trosglwyddydd Blaenplwyf wedi bod yn trosglwyddo radio byw ers mis Hydref 1956. Darllenwch ragor am hanes y trosglwyddydd yma.

 

Ydych chi wedi cael trafferthion gyda signal Radio Cymru? Gadewch sylw isod.