Mast Blaenplwyf

Mererid
gan Mererid

Mae rhan fwyaf ohonom yn gwylio’r teledu neu yn gwrando radio, ond a oeddech chi yn deall pa mor bwysig yw mast Blaenplwyf i’ch mwynhad?

Ffilm

Mae holl drigolion Gogledd Aberystwyth yn gyfarwydd a mast Blaenplwyf ond faint ohonoch sydd yn gwybod ei hanes? Mae’r BFI wedi rhyddhau ffilm ddi-sain o 1960 o broses gosod lloeren ar y Mast Blaenplwyf (Cliciwch yma). Mae’r ffilm o eiddo postman lleol, Vince Morgan, yn dangos gwaith mor beryglus oedd gweithio ar y mast.

Hanes y mast

Adeiladwyd y mast yn wreiddiol gan y BBC, gan ddod yn wasanaeth radio byw ym mis Hydref 1956 gan weithredu fel prif drosglwyddydd ar gyfer radio VHF FM BBC Band II, ac wedyn a gyfer teledu chwe mis yn ddiweddarach ar 29 Ebrill 1957. Roedd Blaenplwyf yn cael ei ystyried yn brif drosglwyddydd ar gyfer teledu VHF (er gwaethaf pelydru ERP 3 kW yn unig) gan ei fod yn cael ei fwydo o gyswllt microdon o Fynydd Pencarreg ychydig i’r de o Llanbedr Pont Steffan.

Mae’r mast bellach yn eiddo i gwmni Arqiva ac yn cael ei weithredu ganddynt.

Uchelder y mast

Saif y mast dur 152 metr (499 troedfedd) ar dir sydd 175 metr (574 troedfedd) uwch lefel y môr, lleoliad ardderchog. Dyluniwyd y mast i gyrraedd y mwyafrif o arfordir Bae Aberteifi, gyda dyluniad yr antenâu i geisio cael cylchrediad mwyaf posibl i’r Gogledd ac i’r De-orllewin.

Daeth Blaenplwyf yn brif drosglwyddydd ar gyfer teledu lliw analog UHF o 1970 ymlaen, ac roedd yn trosglwyddo’r tair sianel UHF wreiddiol mewn lliw o ganol 1973. Mae bellach yn cario 6 sianel deledu digidol a 9 sianel radio (6 sianel BBC, Classic FM, Real Radio a Radio Ceredigion).