Dim newid i wasanaethau a chyfleusterau’r cyngor

Cyngor Sir yn apelio ar bobol i beidio gwneud unrhyw weithgareddau dŵr.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wrth i Gyngor Sir Ceredigion newid ei baneri glas “Aros Adref. Achub Bywydau” am rai melyn “Aros yn lleol. Aros yn ddiogel” mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau na fydd dim newid i wasanaethau a chyfleusterau’r cyngor ar hyn o bryd.

Yr unig eithriad i hyn yw’r cynlluniau i ail agor canolfannau ailgylchu.

Mewn datganiad dywedodd y Cyngor: “Hoffem ddiolch i’r preswylwyr lleol am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth parhaus yn ystod y cyfnod hwn, wrth i ni geisio cadw a chynnal yr ymagwedd lwyddiannus hon yn ogystal â’n sefyllfa o ran y gyfradd heintio ar lefel leol.”

Darllenwch fwy am y gyfradd heintio yng Ngheredigion yn niweddariad wythnosol Lloyd Warburton.

Dim gweithgareddau dŵr

Er i’r gwaith o glirio promenâd Aberystwyth ddechrau’r wythnos yma mae’r cyngor hefyd wedi apelio ar bobol i beidio gwneud unrhyw weithgareddau hamdden ar ddŵr gan gynnwys ar draethau a harbyrau.

Yn dilyn stormydd Ciara a Dennis yn gynharach eleni roedd disgwyl i’r gwaith glanhau arferol gael ei gwblhau yng nghynt, ond oherwydd argyfwng y coronafeirws penderfynwyd gohirio’r gwaith.

Ychwanegodd y Cyngor fod hi’n bwysig dilyn y cyfyngiadau a’r canllawiau hyn er mwyn lleihau pwysau diangen posibl y gallai gweithgareddau dŵr o’r fath ei gael ar y gwasanaethau brys.

Bydd dim rhagor o newidiadau i wasanaethau a chyfleusterau’r cyngor tan ar ôl cyhoeddiad nesaf Llywodraeth Cymru ynghylch sefyllfa COVID-19, a ddisgwylir ar Fehefin 19.