Canolfan ailgylchu Aberystwyth ymhlith canolfannau ailgylchu sydd yn ail agor 

Bydd rheol eilrif ac odrif yn cael ei ddefnyddio i leihau ciwiau.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dros yr wythnosau nesaf bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar draws Ceredigion yn ail-agor.

Mae Cyngor Ceredigion yn annog pobol i beidio ag ymweld â’r safleoedd oni bai ei fod yn hanfodol – os na ellir storio’r eitemau gwastraff yn ddiogel gartref neu os na ellir eu casglu yn rhan o’r gwasanaeth casglu gwastraff domestig arferol.

Rheol eilrif ac odrif

Bydd rheolau newydd mewn lle er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd a staff.

Dim ond cerbydau sydd ag eilrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd gwastraff ar ddyddiadau sy’n eilrifau, a dim ond cerbydau sydd ag odrif yn eu rhifau cofrestru fydd yn gallu cael mynediad i’r safleoedd ar ddyddiadau sy’n odrifau.

Ceir yn unig fydd yn cael defnyddio’r safle, bydd dim mynediad i bobol ar droed.

Gall uchafswm o ddau berson o’r un cartref adael y cerbyd er mwyn cael gwared â’r gwastraff – ni fydd unrhyw gymorth ar gael gan staff y safle i ddadlwytho unrhyw eitemau.

Ciwiau hir yn bosib

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhybuddio ei bod nhw’n disgwyl ciwiau hir, ac mae’r Cyngor wedi gofyn i bobol roi trefn ar eu gwastraff gartref cyn cyrraedd y safle, ac i ddilyn cyfarwyddiadau gweithwyr y safle wrth ymweld.

Mae’r cyngor hefyd wedi pwysleisio dylai unrhw un sydd â symptomau Covid-19 neu sy’n byw gydag unrhyw un sydd â symptomau Covid-19 gadw draw.


Gwybodaeth a chyfarwyddiadau sy’n benodol i bob safle:

Aberystwyth

Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ

Ailagor o ddydd Iau Mehefin 4

Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 -17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.

Os bydd y ciwiau’n ymestyn i brif ffordd drwodd Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, dylai pobol adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall –  ni chaniateir ciwio heibio’r pwynt hwnnw.

Aberteifi

Cilmaenllwyd, Penparc, Cardigan. SA43 1RB

Ailagor o ddydd Iau Mehefin 11

Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 – 17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.

Os bydd ciwiau’n ymestyn i gefnffordd yr A487, dylech adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio ar yr A487.

Dim ond o gyfeiriad Aberteifi y dylai pobol gael mynediad. Dim troi i’r dde oddi ar yr A487 o gyfeiriad Penparc – ewch ymlaen at gylchfan Stryd y Priordy ac ewch yn ôl.

Llanbedr Pont Steffan 

Yr Ystâd Ddiwydiannol, Heol Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT

Ailagor o ddydd Iau Mehefin 11

Bydd y safle ar agor ddydd Llun – ddydd Sul 09:00 – 17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.

Os bydd ciwiau ar yr A485 neu’r A482, dylai pobol adael a dychwelyd ar adeg/diwrnod arall oherwydd ni chaniateir ciwio heibio’r pwynt hwnnw.

Llanarth

Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP

Ailagor o ddydd Mercher Mehefin 17

Bydd y safle ar agor ar ddyddiau Mercher, Sadwrn a Sul 09:00-17:00. Ni chaniateir mynediad ar ôl 17:00.

Dim ond o gyfeiriad Llanarth y dylid cael mynediad at y safle, a dylid gadael y safle drwy deithio tuag at Bost Bach. Ni chaniateir mynediad i gerbydau sy’n ceisio cael mynediad o Bost Bach.