COVID-19: Y Sefyllfa yng Ngheredigion (02/06)

Pumed erthygl wythnosol gan Lloyd Warburton yn trafod sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Lloyd Warburton
gan Lloyd Warburton
Ceredigion

Lloyd Warburton ydw i, ac rydw i’n rhedeg y wefan https://coronaviruscymru.wales, sy’n dangos ystadegau ynglŷn â COVID-19 yng Nghymru mewn ffurf syml. Bob wythnos, rydw i hefyd yn ysgrifennu erthygl i BroAber360 am y sefyllfa COVID-19 yng Ngheredigion.

Dros yr wythnos diwethaf, am y tro cyntaf, does neb yng Ngheredigion wedi profi’n bositif gyda COVID-19. Daeth pob un o’r 171 prawf allan yn negyddol. Mae dal gennym ddim ond 42 achos (57.8 i bob 100k o breswylwyr). Mae hwn yn newyddion da, ond, yn drist iawn, cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod un person arall yn y sir wedi marw gyda COVID-19 mewn ysbyty. Golyga hyn bod 7 person o Geredigion bellach wedi marw gyda COVID-19 wedi’i gadarnhau neu ei amau. 4 mewn ysbyty, 2 gartref ac 1 mewn cartref gofal lan at 22/05. Gallwch weld y data yma.

Mae dal gan Geredigion y nifer o achosion lleiaf yng Nghymru, ymhell tu ôl i Ynys Môn (225) a Sir Benfro (279). Mae’r nifer o achosion i bob 100k o bobl hefyd yn edrych yn dda, y ddwy sir gorau tu ôl i ni yw Powys (216.0) a Sir Benfro (221.7). Ar y llaw arall, mae Ceredigion dim ond wedi profi 1.4% o’i boblogaeth (992 o bobl), sef y ganran waethaf yng Nghymru. I gymharu gyda’r siroedd tebyg i Geredigion, mae Powys wedi profi 1,922 (1.5%), Sir Benfro 2,562 (2.0%), Gwynedd 3,163 (2.5%) ac mae Sir Gaerfyrddin wedi profi 4,856 person (2.6%). Mae dim ond 4.2% o brofion Ceredigion wedi bod yn bositif, llai na hanner y canran o unrhyw sir arall.

Mae’n edrych fel bod Ceredigion bron iawn wedi curo’r firws, ond mae’n rhaid inni fod yn ofalus, oherwydd mae’ bosib bod pobl yn cario’r feirws heb symptomau, a gallai hyn achosi mwy o bobl i brofi’n bositif os nad ydyn yn cadw at y rheolau.

Ffynhonnell yr holl ddata yn yr erthygl hon yw Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae nifer yr achosion yn gywir ar 01/06/2020 am 13:00 ac yn dod o ddangosfwrdd data ICC wedi’i ddiweddaru ar 02/06/2020 am 14:00. Mae nifer y marwolaethau yn gywir ar 22/05/2020 ac yn dod o ddata a gyhoeddwyd gan SYG ar 02/06/2020.