Noson a hanner oedd hi yn 2017. Dim ond un cyfrif bydd angen heno gobeithio, gan weld cynnydd ym mhleidlais Ben Lake.
Blog noson yr etholiad, sy’n dod yn fyw o’r cyfrif yng Nghanolfan Hamdden Aberaeron.
- Mwyafrif o dros 6,300 i Ben Lake yng Ngheredigion
- Y Torïaid yn dod yn ail
- Mark Williams yn cyhoeddi na fydd yn sefyll eto. “mae 20 mlynedd yn eitha’ digon” meddai.
Perffaith!!!! Fydda hyn ddim yn digwydd yn unlle arall yn y bydysawd!" Diolch byth am achos i wenu! https://t.co/Locu9sl4QK
— Arwel Jones (@RocetArwel) December 12, 2019
Iep. Ceredigion mor amhosib i'w ddarogan ac erioed!
— GutoA (@cwlcymro) December 12, 2019
Hyn yn dangos pa mor agos yw hi yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Amhosib gwybod pwy fydd yn mynd a hi.
Roedd Y Blaid Lafur yn lleol yn hyderus eu bod wedi gwneud cynnydd da dros ddiwrnodau olaf yr ymgyrch.
Dyma argraffiadau Nel Jenkins ar ddiwedd yr ymgyrchu:
“Yng Ngheredigion mae gennym grŵp gwych o weithredwyr gwirfoddol sydd wedi brwydro yn erbyn y tywydd gaeafol i ganfasio ledled y sir. Mae’r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth, rydyn ni wedi gallu hyrwyddo a thrafod ein maniffesto ysbrydoledig, ac wrth gwrs ychydig ddyddiau yn ôl ymwelwyd â ni gan Jeremy Corbyn ei hun. Roedd yn eithaf hyfryd gweld ei fws wedi’i barcio ar y prom yn Aber! Mae’r etholaeth bellach wedi’i chydnabod fel sedd ymylol ac rydym yn obeithiol ein bod wedi adeiladu ar y cynnydd enfawr a enillwyd gennym yn 2017, i gyrraedd y cynnydd o 4.5% sydd ei angen arnom y tro hyn i ethol AS benywaidd cyntaf Ceredigion i San Steffan.
Yn anochel rydym wedi cael trafodaethau am Brexit, ond mae pobl hefyd yn poeni am y goblygiadau i etholaethau gwledig fel Ceredigion os fydd y Torïaid yn ennill mwyafrif. Mae llawer o bobl yn cydnabod mai Llafur yw’r unig blaid sydd â’r niferoedd a’r ewyllys i sicrhau newid radical, a’r ymrwymiad credadwy i gynyddu cyllid i Gymru. Mae llawer o gefnogwyr Llafur a bleidleisiodd yn dactegol yn 2017 wedi dweud wrthym y byddan nhw y tro yma yn pleidleisio â’u calonnau dros gymdeithas garedig a thecach sy’n gweithio er budd y llu yn lle’r lleiafrif.
Mae’r ymgyrch lleol wedi bod yn un gadarnhaol a chyffrous, ac rwy’n falch ac mor ddiolchgar i’m holl gymrodyr sydd wedi gweithio mor galed i chwalu’r myth ras dau geffyl a phlannu’r blaid Lafur yn gadarn yn y ras yng Ngheredigion. Wrth i ni glou heddiw, ni allaf helpu ond deimlo’n obeithiol ein bod ni efallai wedi’i gneud hi y tro yma.”
Y chwech ymgeisydd heno yng Ngheredigion – ydych chi’n nabod wyneb pawb?
NEWYDDION
Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill Pentre Sali Mali! (yn ôl y sampl o’r cownt)
Jac y Jwc yn rial Tori, mae’n amlwg… ?
Y sïon cynta’, edrych fel bod ras dau geffyl gwahanol yng Ngheredigion eleni. Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr fydd yn gyntaf ac yn ail ond ym mha drefn?
Sampl Felinfach yn wych i Blaid Cymru, tra bod y Ceidwadwyr yn cipio Pennant.
Newydd gael y text yma – Mae’r exit-poll yn Ceredigion yn rhoi’r Ceidwadwyr ar y blaen gan 88.
— TomosGRY (@TomosGRY) December 12, 2019
Y bocs mae pawb ’di bod yn aros am! Tybed pwy ma’ Jac y Jwc a Bili Bom Bom wedi pleidleisio dros?
Os na’ chi’n cofio, dyma ganlyniad yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, yn 2017.
O’dd hi’n dynn!
- Plaid Cymru – Ben Lake – 11,623 29.2%
- Dem Rhydd – Mark Williams – 11,519 29%
- Llafur – Dinah Mulholland – 8,017 20.2%
- Ceidwadwyr – Ruth Davis – 7,307 18.4%
- UKIP – Tom Harrison – 602 1.5%
- Y Blaid Werdd – grenville Ham – 542 1.4%
- Y Lwnis – Syr Dudley the Crazed – 157 0.4
Yr exit poll cenedlaethol yn darogan y bydd Plaid Cymru yn colli sedd, ac yn mynd o 4 i 3.
Ai Ceredigion fydd yn colli mas?
Mae tîm Ben Lake wedi cyrraedd y cownt yn dawel hyderus o gadw gafael ar y sedd. Dyma farn Rhodri Evans, un o’r ymgyrchwyr lleol, erbyn heno –
“Mewn ymgyrch a nodweddwyd gan ddyddiau byr, llwydaidd, a sesiynau ymgyrchu cyfatebol o fyr, mae ymwybyddiaeth trigolion Ceredigion o Ben Lake wedi bod yn belydryn cadarnhaol a dorrodd trwy’r diflastod a chysylltwyd â’r oerfel a’r glaw. Roedd yn amlwg ar garreg y drws fod gwaith diflino Ben dros y ddwy flynedd diwethaf wedi gwneud dylanwad ar etholwyr Ceredigion. Roedd ond rhaid crybwyll ymdrechion egnïol Ben ar achosion megis yr ymgyrch i achub bad achub Cei Newydd, neu i ddiogelu taliadau pensiwn y menywod WASPI i ennyn cyfaddefiad fod Ben, yn ei gyfnod fel Aelod Seneddol wedi gweithio’n galed i neud gwahaniaeth ledled Ceredigion, ac yn genedlaethol. Ar sail ei lwyddiannau lu, gobeithiwn y bydd Ben yn cael ei ailethol erbyn bore fory, gan adlewyrchu’r gwaith arbennig mae eisoes wedi ei gyfrannu i’r Sir, i’w Blaid, ac i’w genedl, a chyfiawnhau ei weledigaeth i Geredigion i’r dyfodol.”